Ein Planed
  Yn Neuadd Prichard-Jones y Brifysgol, dysgwch am yr holl ffyrdd y mae Prifysgol Bangor yn darganfod pethau newydd a chyffrous am ein byd ac yn helpu i ddatrys heriau amgylcheddol.
- Arddangosiadau a gwyddoniaeth ymarferol
 - Dewch wyneb-yn-wyneb â chreaduriaid morol lleol
 - Dewch i ddeall sut mae’r cefnfor yn gweithio
 - Dysgwch am esblygiad dynol gyda'n harddangosfa penglogau ac esgyrn croes
 - Archwiliwch fyd cyfrinachol anifeiliaid
 - Dysgwch am ein cydweithrediad â chwmnïau lleol ar becynnu bio-seiliedig a deunyddiau adeiladu
 - Creu collage botanegol gyda Gardd Fotaneg Treborth
 - Peintio wynebau - pa anifail fyddwch chi'n dewis bod?
 
Ein Hiechyd
  Yn Neuadd Powis ac yn y Cwad Allanol, dewch i ddarganfod mwy am eich corff a’ch meddwl anhygoel a sut mae Prifysgol Bangor yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn gwneud ymchwil pwysig i iechyd a meddygaeth.
- Dysgwch sut mae babanod yn datblygu a sut mae cyfathrebu trwy arddangosiad ymarferol gan ddefnyddio SimBaby a dysgwch rywfaint o Makaton
 - Dewch i wybod mwy am eich corff gyda Mannequin y Frest ac offer uwchsain sy’n gweithio â llaw sy'n canfod rhydwelïau a gwythiennau
 - Dywedwch wrthym sut rydych chi'n teimlo heddiw gyda gweithgaredd cardiau post
 - Rhowch gynnig ar amrywiaeth o heriau seicoleg gan gynnwys gogls prism a phrawf adwaith Batak
 - Dyluniwch ac adeiladwch gwch i ddysgu sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau gofal iechyd
 - Profwch eich ffitrwydd a'ch sgil gyda gweithgareddau chwaraeon yn y Cwad (gan ddibynnu ar y tywydd)
 
Ein Heconomi
  Yn nerbynfa’r Prif Adeilad, dysgwch bopeth am fusnes a sut rydym yn gweithio gydag eraill i wella ffyniant yr ardal.
- Cychwyn clyfar – canllaw ar wneud eich busnes yn llwyddiant gydag arbenigwyr o Ysgol Busnes Bangor
 - Cyngor ar sut i roi CV wych at ei gilydd
 - Bydd M-SParc, parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru, yna i danio uchelgais, gan ardangos y cyfleon sydd ar gael i’ch cefnogi i fod yn arloeol a dechrau eich busnes eich hun yng ngogledd Cymru
 - Ewch ar daith dywys o amgylch ein Hystafell Fasnachu
 - Dewch i addurno cadw-mi-gei
 
Ein Diwylliant a Thechnoleg
  Yn Pontio, byddwn yn canolbwyntio ar bobl, celf, diwylliant a thechnoleg, gan gynnwys:
- Dysgwch am effeithiau arbennig a thechnoleg sgrin werdd - dewch i weld lle gallwn fynd â chi a thynnwch lun o'r cyfansoddiad terfynol
 - Dewch i roi cynnig ar sylwebu ar gêm bêl-droed Cymru. Ydych chi'n adnabod y chwaraewyr? Oes gennych chi'r ystadegau tîm diweddaraf? Peidiwch â phoeni, bydd sylwebydd wrth law i'ch cynorthwyo.
 - Mwynhewch berfformiadau ar ein llwyfan cymunedol
 - Darlleniadau a sgyrsiau
 - Dysgwch am wahanol grefyddau'r byd trwy weithgareddau hwyliog
 - Adeiladwch Dŵr Eiffel gyda Marshmallows a Sbageti neu dewch i chwarae bingo amlieithog a dysgu mwy am ieithoedd
 - Rhowch gynnig ar ychydig o Galigraffeg Tsieineaidd, clymau Tsieineaidd a thorri papur gyda Sefydliad Confucius
 - Darganfyddwch am ein partneriaeth gyda Phrifysgol y Plant a rhowch gynnig ar wisgo cap a gŵn
 - Dysgwch sut mae technoleg ddigidol yn newid y byd o'ch cwmpas, o gyflymder band eang i synhwyro beth sy'n digwydd yn yr amgylchedd
 - Dysgwch sut rydym yn defnyddio technoleg i gefnogi ein defnydd o'r Gymraeg
 - Realiti Rhithwir ac arddangosiadau VR ac XR
 - Dewch i ymweld â’n 'digwyddiad bywyd carcharor' yn y Blwch Gwyn
 
Ein Hanes
  A wyddech chi mai ym 1884 y sefydlwyd Prifysgol Bangor? Dysgwch fwy am ein hanes hynod ddiddorol a'r bobl sydd wedi gwneud y brifysgol yr hyn ydyw heddiw.
- Bydd yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn agor eu drysau ac yn rhoi cyfle i weld rhai o’r llawysgrifau a’r llyfrau prin a sgwrsio â’r staff
 - Ewch ar daith dywys o amgylch adeilad Prif Adeilad y Celfyddydau a dysgu mwy am ein hanes
 - Ymlaciwch a gwyliwch ffilmiau am ein hanes a'n gwaith ymgysylltu dinesig
 - Dysgwch am ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr
 
Bwyd a diod
  Bydd lluniaeth ysgafn am ddim ar gael yn Neuadd Prichard-Jones a Pontio, a bydd bwyd a diod hefyd ar gael i’w prynu yn ein mannau gwerthu bwyd, Teras a Cegin, yn y prif adeilad a Pontio.
Mae’n bosib y gall digwyddiadau newid. Mae’r wybodaeth yn gywir ar hyn o bryd.