Digital image of a hull on the seafloor

Dod o hyd i'r SS Hartdale

Mae tîm o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y project Unpath'd Waters wedi dod o hyd i weddillion llong gargo o Brydain, sydd wedi bod ar goll ers cael ei tharo gan dorpido o un o longau tanfor yr Almaen. 

 

Mae cysylltu data gwyddonol â chofnodion morwrol amrywiol ond llawn gwybodaeth wedi ein galluogi i adnabod llongddrylliad na wyddem amdano cyn hyn, i greu naratif cynhwysfawr a manwl sy’n canolbwyntio ar y llong fel yr oedd ac i wella ein dealltwriaeth o archaeoleg forwrol y Deyrnas Unedig. Dim ond un yw hon o blith y miloedd lawer o longau masnach y gwyddom eu bod wedi’u suddo yn nyfroedd y Deyrnas Unedig ac sy’n parhau i fod wedi’u rhestru fel llongau coll neu sydd wedi’u hadnabod yn anghywir oherwydd diffyg data o ansawdd uchel.  Yn sicr mae gennym bellach y gallu a’r dechnoleg i allu unioni’r cam hwnnw sydd wedi cael ei anwybyddu’r rhy hir.

 

Dr Michael Roberts

SS Benbrook

Adeiladwyd yr SS Hartdale yn Stockton-on-Tees ym 1910. Ei henw gwreiddiol oedd SS Benbrook, cyn iddi gael ei gwerthu a’i hailenwi yn 1915.  Roedd y llong yn cludo glo o'r Alban i'r Aifft, pan gafodd ei hymlid mewn modd dramatig gan U-27 a'i suddo gan dorpido.  Collodd dau o’r criw eu bywydau wrth i’r llong suddo ac roedd adroddiadau’r goroeswyr yn ogystal â dyddiadur rhyfel swyddogol yr U-27 ei hun yn rhoi gwybodaeth hollbwysig i ymchwilwyr ynglŷn ag union leoliad yr ymosodiad, disgrifiadau pwysig o sut y trawyd y llong gan y torpido a disgrifiad teimladwy o eiliadau olaf yr SS Hartdale.

Dyma ddywedodd Barney Sloane, Prif Ymchwilydd Unpath'd Waters yn Historic England ynglŷn ag adnabod y llongddrylliad, “Dyma enghraifft wych o'r potensial enfawr sy'n aros i gael ei ryddhau trwy greu casgliad cenedlaethol sy’n rhyng-gysylltiedig, yn hygyrch ac yn gynaliadwy o gasgliadau a chofnodion diwylliannol a threftadaeth archifdai ac amgueddfeydd y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnig y cyfle i ni ddatgloi straeon anghofiedig a rhyddhau arloesedd gwyddonol”.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?