Dau berson yn sefyll o flaen darn o dir gyda choed yn y cefndir

O Sioe Flodau Chelsea i Ardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor!

Bydd gardd sydd yn cael ei harddangos fel rhan o Sioe Flodau byd-enwog RHS Chelsea ym mis Mai yn cael ei symud i Ardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor, dafliad carreg o’r Fenai, dros yr haf.

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno gardd yn Sioe Flodau Chelsea eleni ochr yn ochr â Maint Cymru ac wedi ei noddi gan broject uchel ei barch - Project Giving Back. Mae'r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i arddangos yr hyn fedrwn ni ei wneud o ran dylunio; mae'n ymdrech ddiffuant i dynnu sylw at y rhan hanfodol y mae coedwigoedd trofannol yn chwarae wrth gynnal bioamrywiaeth y blaned. Bu fy nhad yn gweithio am dros ddegawd i elusen gwrth-ddatgoedwigo yn Affrica Is-Sahara, ac felly cefais fy magu’n rhannol yn y Swdan, felly mae’r materion hyn bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon. Nod y cydweithrediad yw ysbrydoli ymwelwyr a sbarduno sgyrsiau am yr angen dybryd i weithredu arferion cadwriaethol a chynaliadwy.
Dan Bristow,  Cyfarwyddwr Studio Bristow

Bydd yr Ardd Maint Cymru yn trochi ymwelwyr mewn tirwedd gyfoethog sy’n cynrychioli coedwigoedd trofannol, ond yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau planhigion sy’n ffynnu yn ein hecosystemau hanfodol ein hunain, yma yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn herio’r gwyliwr i gydnabod bod tirweddau eu cartref annwyl eu hunain hefyd dan fygythiad.

Ychwanegodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru, “Mae coedwigoedd trofannol yn fannau hynod bwysig o ran bioamrywiaeth, gall un hectar gynnwys dros 300 o rywogaethau o goed ac maen nhw’n gartref i filiynau o bobl. Llynedd, cafodd 4 miliwn hectar o goedwig drofannol werthfawr ei ddinistrio ar draws y blaned, dwywaith maint Cymru. Rydym yn eich gwahodd ar ein taith RHS Chelsea, lle gyda’n gilydd gallwn sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd.”

Bydd 313 o rywogaethau o blanhigion yn cael eu defnyddio yn y plannu, gan adlewyrchu nifer y rhywogaethau coed sy’n bosib eu darganfod mewn dim ond un hectar o goedwig drofannol. Yn yr ardd, mae meindyrau main o goed colofnog yn esgyn tua'r awyr, wrth i blanhigion bach alpaidd grynhoi ymhlith y creigiau, wedi'u gwasgar drwyddi draw ag amrywiaeth o flodau melyn - lliw gobaith. Mae cwpl o doeau bach yn swatio ar ben pyst, gan ddwyn i gof natur fregus ein bodolaeth bresennol. Mae ffens ffwng yn rhoi llwyfan i'r deyrnas o ffyngau cudd yn bennaf, sydd mor hanfodol i iechyd pob coedwig yn y byd.

Mae pob elfen o’r ardd wedi’i churadu gyda gofal i bwysleisio harddwch a breuder ein coedwigoedd, gan wahodd ymwelwyr i ystyried ôl-effeithiau datgoedwigo ar raddfa leol a byd-eang.

Bydd Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth, yn dychwelyd i RHS Chelsea am y chweched tro, eleni gyda thîm o fyfyrwyr Prifysgol Bangor a gwirfoddolwyr Gardd Fotaneg Treborth i gynorthwyo Studio Bristow i blannu’r ardd yn gywrain, yn ogystal â rhoi cymorth i adleoli'r ardd i dir Treborth ar ôl y sioe, ddechrau mis Mehefin.

Rydym yn falch iawn o fod yn darparu cartref ar gyfer un o erddi Chelsea yma yn Nhreborth, nid yn unig o ran bri’r cynllun, ond fel gardd gadwraethol gyda choetir hynafol a morwrol prin. Mae’n gyffrous iawn meithrin partneriaeth gyda Studio Bristow a Maint Cymru i godi ymwybyddiaeth o werth y cynefinoedd pwysig hyn gyda myfyrwyr y gwyddorau amgylcheddol a naturiol ym Mhrifysgol Bangor a’r llu o aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â’r ardd.
Natalie Chivers,  Curator, Treborth Botanic Garden

Mae Gardd Fotaneg Treborth ar agor i’r cyhoedd ac mae rhagor o wybodaeth am oriau agor ar gael drwy fynd i: https://treborth.bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?