Mae ein rhaglenni yn y categori hwn yn cynnwys Peirianneg Electronig, Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol a Rheolaeth ac Offeryniaeth. Rydym hefyd yn addysgu gradd-brentisiaeth mewn Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol
Mae’r llwyddiant eithriadol hwn yn adlewyrchu ymroddiad ein staff, ein myfyrwyr a’n graddedigion, ac mae’n gydnabyddiaeth o ansawdd uchel yr addysgu, y gefnogaeth a'r profiad dysgu sy'n diffinio Peirianneg Drydanol ac Electronig ym Mangor.
Rydym yn angerddol am helpu ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a meithrin yr hyder a'r profiad ymarferol sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn diwydiant cyffrous sy'n symud yn gyflym. Drwy gyfrwng dysgu ymarferol, cyfleusterau arbenigol ac addysgu sy'n cael ei lywio gan ymchwil, rydym yn paratoi graddedigion i fynd i'r afael â heriau a gwneud gwahaniaeth i’r technolegau sy'n llunio ein bywydau beunyddiol.
Mae bod yn rhif 1 trwy’r Deyrnas Unedig yn garreg filltir arwyddocaol. Mae hynny'n gydnabyddiaeth o waith caled pawb sy'n rhan o'n cymuned ac mae’n atgyfnerthu ein henw da fel lle y gall myfyrwyr ffynnu'n academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Dywedodd yr Athro William Heath, sef Pennaeth yr Ysgol:
"Rydyn ni’n hynod falch o fod yn rhif 1 trwy’r Deyrnas Unedig." Mae hynny’n dipyn o gamp ac yn adlewyrchiad o ymrwymiad ein staff, o dalent a brwdfrydedd ein myfyrwyr, ac o'r amgylchedd dysgu cefnogol yr ydyn ni wedi'i adeiladu gyda'n gilydd.
Mae'n werth chweil cael cydnabyddiaeth o’r fath ar adeg pan fo sgiliau peirianneg yn bwysicach nag erioed. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr a sicrhau bod ein graddedigion wedi'u harfogi i lwyddo ym meysydd diwydiant, ymchwil a thu hwnt."
Mae’r maes Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn un ag iddo hanes y gallwn ni ymfalchïo ynddo. Mae ein rhaglenni'n rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio meysydd gan gynnwys dylunio electronig, systemau mewnosodedig, technolegau cyfathrebu a thechnolegau digidol newydd. Drwy gydol eu hastudiaethau, bydd ein myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol gwerthfawr ac yn datblygu'r sgiliau datrys problemau sy’n hynod ddeniadol i gyflogwyr.
Rydyn ni’n falch o'r gydnabyddiaeth hon, ond yn fwy balch byth o'r bobl sy’n gyfrifol am hynny. Hoffem ddiolch i'n myfyrwyr, i’n staff, i gyn-fyfyrwyr ac i bartneriaid mewn diwydiant am wneud y fath lwyddiant yn bosibl.
Wrth i ni ddathlu mai ni sy’n rhif 1 trwy’r Deyrnas Unedig, rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
Rhif 1 trwy’r Deyrnas Unedig ym maes Peirianneg Drydanol ac Electronig
Mae Prifysgol Bangor yn rhif 1 trwy’r Deyrnas Unedig ym maes Peirianneg Drydanol ac Electronig yn y Guardian University Guide 2027.