Fy ngwlad:
Laptop, coffee cup, mobile phone, notepad and biro on a desk

Sgwrsio yn fyw

Cysylltwch â ni dros Sgwrs Fyw i weld a allwn gynnig lle i chi drwy'r system Glirio. 

 

Sut i Ddefnyddio Ein Gwasanaeth Sgwrs Fyw Yn Ystod y Cyfnod Clirio

  • Cliciwch 'Sgwrsio Nawr' yn ystod ein horiau agor
  • Dywedwch wrthym pa gyrsiau sy’n eich diddori a’ch graddau
  • Gall ein tîm wirio argaeledd ac addasrwydd
  • Rydym yn eich tywys drwy’r camau nesaf - boed hynny i wneud cais, derbyn galwad, neu drafod opsiynau eraill

Beth i’w Baratoi Cyn Dechrau Sgwrs

  • Eich ID UCAS (os oes gennych un)
  • Eich cymwysterau a’ch graddau a ragwelir/gwirioneddol
  • Eich manylion cyswllt
  • Cwrs/cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi

Sut i Ddefnyddio Sgwrs Fyw Clirio 

Mae Sgwrs Fyw yn eich helpu i gael atebion cyflym i gwestiynau cyffredin am y broses Clirio, gan gynnwys:

  • Ydw i’n gymwys ar gyfer Clirio ym Mhrifysgol Bangor?
  • Oes gennych leoedd ar gael ar fy nghwrs?
  • A allaf wneud cais heb rif UCAS?
  • Pa mor hir mae penderfyniad Clirio yn ei gymryd?
  • Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy manylion?

Pam Defnyddio Sgwrs Fyw Clirio?

  • Un o’r ffyrdd cyflymaf o gael cymorth Clirio
  • Atebion ar unwaith gan staff sydd wedi cael eu hyfforddi i'ch helpu
  • Dim aros ar linellau ffôn
  • Ardderchog ar gyfer gwirio cymhwysedd yn gyflym
  • Hawdd ei ddefnyddio ar ffonau symudol neu gyfrifiaduron

Beth i’w Wneud Os yw’r Sgwrs ar Gau?

Os nad yw Sgwrs Fyw ar gael:

  • Gwiriwch ein horiau agor uchod
  • Ffoniwch ein llinell gymorth ar 0800 085 1818
  • Cyflwynwch ffurflen gais Clirio ar lein
  • Archwiliwch ein rhestr cyrsiau Clirio 

Cwestiynau Cyffredin Sgwrs Fyw Clirio

Mae’r Sgwrs Fyw Clirio ar gyfer ymgeiswyr:

  • Nad ydynt ar hyn o bryd yn dal cynnig prifysgol (e.e. heb wneud cais i brifysgol neu heb fodloni gofynion eich Dewis Cadarn neu Ddewis Wrth Gefn).
  • Sydd wedi newid eu meddwl am eu cynnig gwreiddiol gan brifysgol arall ac eisiau archwilio cyrsiau amgen drwy Clirio.
  • A wnaeth wneud cais i Fangor yn wreiddiol ac sydd eisiau cadarnhad o’u lle.

Mae Sgwrs Fyw yn ddelfrydol ar gyfer cwestiynau cyflym, tra bo llinellau ffôn yn well ar gyfer trafodaethau manylach.

Byddwn yn gofyn am eich graddau, y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, a’ch manylion cyswllt fel y gallwn roi cyngor cywir i chi.

Gall ein tîm eich helpu i archwilio opsiynau addas yn seiliedig ar eich diddordebau, eich graddau a’ch nodau gyrfa.

Gallwn roi cyngor cyffredinol, ond bydd angen i ni siarad yn uniongyrchol â’r myfyriwr ar gyfer cwestiynau sy’n ymwneud â chais.

Na, i drafod eich opsiynau Clirio gallwch lenwi’r ffurflen ‘Cofrestru Diddordeb mewn Clirio’ neu’r ffurflen ‘Gwneud Cais Nawr drwy Clirio’ ar-lein, neu gallwch ein ffonio ar ein Llinell Gymorth Glirio ar 0800 085 1818 yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A.

Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio

0800 085 1818

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i diweddaru ar gyfer Clirio 2026.