Fy ngwlad:

Cyfleoedd i Ymweld  Phrifysgol Bangor Yn Ystod Clirio 2026

Diwrnod Ymweld Clirio

Pwy ddylai fynychu

Ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig Clirio gan Brifysgol Bangor.

Pryd mae’n cael ei gynnal

Unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig Clirio i astudio ym Mhrifysgol Bangor, byddwn yn eich gwahodd drwy e-bost i Ddiwrnod Ymweld Clirio ym mis Awst.

Sut i fynychu

Cewch eich gwahodd i'r digwyddiad yma. Gwiriwch eich e-bost am y manylion.

Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod

  • Cyflwyniad i Brifysgol Bangor
  • Taith dywys o amgylch y campws
  • Cyfle i archwilio bywyd myfyrwyr ym Mangor

Beth i’w wneud nesaf

Os ydych wedi derbyn cynnig Clirio i astudio ym Mhrifysgol Bangor, gwiriwch eich e-bost am fanylion eich Diwrnod Ymweld Clirio.

Diwrnod Agored ar gyfer Ymgeiswyr Clirio

Pwy ddylai fynychu

Ymgeiswyr sy’n ystyried Prifysgol Bangor fel eu dewis Clirio, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi gwneud cais eto.

Pryd mae’n cael ei gynnal

Dydd Sul, 17 Awst 2026.

Sut i fynychu

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein ymlaen llaw.

Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod

  • Sgyrsiau am gyrsiau a phynciau
  • Cyfarfod â staff addysgu a myfyrwyr
  • Ymweld â’r llety a’r cyfleusterau

Beth i’w wneud nesaf

Cofrestrwch ar gyfer y Diwrnod Agored i’ch helpu i benderfynu a ddylech wneud cais i Brifysgol Bangor drwy Clirio.

Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Cwestiynau Cyffredin - Ymweld â Phrifysgol Bangor fel Ymgeisydd Clirio

Gallwch fynychu Diwrnod Ymweld Clirio ym Mhrifysgol Bangor os:

  • rydych wedi derbyn cynnig Clirio gan Brifysgol Bangor, a
  • rydych wedi cael eich gwahodd drwy e-bost i fynychu Diwrnod Ymweld Clirio.

Os nad oes gennych gynnig eto, gallwch fynychu’r Diwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio ddydd Sul, 17 Awst 2026.
 

Gallwch. Os nad oes gennych gynnig eto i astudio ym Mangor, gallwch fynychu’r Diwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio ar ddydd Sul, 17 Awst 2026.
 

Gallant, mae croeso i rieni a gwesteion ddod gyda chi i’r Diwrnod Ymweld Clirio a’r Diwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio.
 

Os ydych yn ystyried dod i Brifysgol Bangor drwy Clirio, gall mynychu Diwrnod Ymweld Clirio neu Ddiwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio eich helpu i wneud y penderfyniad cywir yn hyderus. Bydd ymweld â Bangor yn rhoi cyfle i chi weld y campws drosoch eich hun, gofyn cwestiynau, a phenderfynu a yw’n teimlo fel y lle iawn i chi.
 

Ydynt. Mae’r Diwrnod Ymweld Clirio fel arfer yn llai ac yn fwy personol, gyda ffocws ar wybodaeth benodol am gyrsiau a’r camau nesaf.

Dwylo gydag ewinedd wedi eu paentio yn wyn yn gafael mewn ffôn symudol
Credit:Paul Hanaoka on Unsplash

Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Clirio

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.

Gweld oriau agor y Llinell Gymorth