Caligraffeg Tsieineaidd: Darganfod Celf Ysgrifennu â Brwsh!
Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd!
Ymunwch â’n Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd i archwilio celf fynegiannol caligraffeg Tsieineaidd! Darganfyddwch sut mae strôciau brwsh yn ffurfio nodau Tsieineaidd, yna ysgrifennwch eich enw Tsieineaidd neu’r nod sy’n golygu bendith i fynd adref gyda chi.
Am ddim ac yn agored i bawb, gyda hyd at 10 lle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Archwiliwch harddwch ysgrifennu Tsieineaidd â brwsh mewn gweithdy ymarferol gyda Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Darganfyddwch Bedair Trysorfa’r Stydi: brwsh, inc, papur a charreg inc. Gydag arddangosiad a chyfarwyddyd cam wrth gam, ymarferwch strôciau sylfaenol cyn creu eich darn caligraffeg eich hun, gan ddewis eich enw Tsieineaidd neu’r nod fu, sy’n golygu bendith.
Mwynhewch gyfle hamddenol i weithio gyda brwsh ac inc, gwerthfawrogi creadigaethau’r grŵp a mynd â’ch cofrodd eich hun wedi’i ysgrifennu â llaw adref.