Cysylltu drwy Iaith: Academydd o Prifysgol Bangor yn Ysbrydoli Myfyrwyr yn Beijing!
Cymerodd 30 o fyfyrwyr ran yn y cwrs Caffael Iaith Gydol Oes ym Mhrifysgol Gwyddor Gwleidyddol a’r Gyfraith Tsieina rhwng 20 a 29 Gorffennaf 2026. Cynlluniwyd a chyflwynwyd y cwrs gan Dr Eirini Sanoudaki o Brifysgol Bangor am yr ail flwyddyn yn olynol, fel rhan o’r cydweithrediad academaidd parhaus rhwng y ddwy brifysgol.
Cyflwynodd y cwrs y myfyrwyr i feysydd allweddol ym maes ieithyddiaeth, gan gynnwys datblygiad seiniau lleferydd a gramadeg, manteision dwyieithrwydd, dysgu iaith yn ystod plentyndod ac oedolaeth, ac iaith ymhlith unigolion â chyflyrau datblygiadol a chaffaeledig.
Bu’r myfyrwyr hefyd yn archwilio’r ymchwil ddiweddaraf gan Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol Bangor, yn rhannu eu profiadau ieithyddol a diwylliannol eu hunain, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol. Creodd trafodaethau agored a chyfnewid syniadau amgylchedd dysgu croesawgar lle’r oedd y myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn cwestiynau ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd.
Dywedodd un myfyriwr:
“Mae ein dosbarth yn llawn trafodaethau a chyfnewid barn... mae hynny’n wych! Nid wyf erioed wedi gwneud hyn mewn dosbarth o’r blaen.”
Tynnodd myfyriwr arall sylw at ddimensiwn diwylliannol y cwrs:
“Mae’r trafodaethau yn y dosbarth yn fy ngalluogi i ddeall yn well a dod i gysylltiad ag amrywiaeth ehangach o ddiwylliannau. Rwy’n mwynhau eich dosbarth yn fawr iawn!”
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Dr Sanoudaki, Darllenydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd) yn Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau.:
“Roedd meithrin cysylltiadau gwirioneddol â’r myfyrwyr a’u gweld yn mwynhau’r dosbarthiadau ac yn elwa arnynt yn brofiad gwerth chweil. Dysgais lawer hefyd gan y myfyrwyr am ddiwylliant ac ieithoedd Tsieina, a mwynheais hynny’n fawr. Roedd yn bleser meithrin cysylltiadau newydd ac ailgysylltu ag wynebau cyfarwydd, gan gynnwys myfyrwyr o ymweliad y llynedd a chydweithwyr o Swyddfa Tsieina Prifysgol Bangor. Mae mentrau fel hyn yn helpu i gryfhau ein partneriaethau rhyngwladol, ac rwy’n ddiolchgar i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor am drefnu’r cyfnewidiadau gwerthfawr hyn.”
Wrth sôn am y cwrs, dywedodd Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor:
“Rydym wrth ein bodd bod Dr Sanoudaki wedi dychwelyd i Brifysgol Gwyddor Gwleidyddol a’r Gyfraith Tsieina am yr ail flwyddyn. Mae ei chwrs yn enghraifft wych o’r cydweithrediad academaidd ehangach rhwng ein dwy brifysgol ac mae’n adlewyrchu llwyddiant parhaus ein partneriaeth. Drwy fentrau fel hyn, rydym yn parhau i ymrwymo i greu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer cyfnewid academaidd a diwylliannol.”
Hwyluswyd y cwrs gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor fel rhan o’i waith i gryfhau’r bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddol a’r Gyfraith Tsieina.