Darganfod Hanfu yng Nghlwb Cinio Diwylliant Tsieina!
Roeddem wrth ein bodd yn croesawu myfyrwyr i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ar gyfer gweithdy amser cinio i ddysgu am Hanfu, traddodiad o wisgoedd Tsieineaidd y mae ei arddulliau wedi datblygu dros y canrifoedd.
Yn ystod y gweithdy, buom yn edrych ar yr hyn y gall dillad ei ddweud wrthym am y bobl a’u gwisgai. Roedd toriad y wisg, y ffordd roedd yn cau a’r manylion addurnol yn fan cychwyn i drafod sut mae gwisgoedd wedi mynegi hunaniaeth a nodi gwahanol achlysuron yn hanes Tsieina.
Yna daeth yn amser rhoi cynnig ar blygu papur. Gwnaeth y myfyrwyr wisgoedd bychain, gan ychwanegu eu lliwiau, eu patrymau a’u manylion addurnol eu hunain. Roedd pob Hanfu papur ychydig yn wahanol, ac roedd modd i’r myfyrwyr fynd â’u creadigaethau adref.
Diolch i bawb a ymunodd â ni. Os hoffech ddysgu mwy am ddiwylliant Tsieina, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn un o weithdai’r Clwb Cinio yn y dyfodol.