Darganfod Harddwch Celf Lacr Tsieineaidd drwy Baentio Ffan!
Daeth staff, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol ynghyd ar gyfer gweithdy creadigol a hamddenol amser cinio yn archwilio harddwch celf lacr draddodiadol Tsieina drwy baentio ffaniau addurnol.
Wedi’i gynllunio fel cyfle i oedi ac ymlacio yng nghanol y dydd, cyflwynodd y sesiwn arwyddocâd diwylliannol technegau lacr yng nghelf addurnol Tsieina. Cafodd pawb gyfle i arbrofi gyda lacr naturiol a phigmentau mwynol, gan greu patrymau lliwgar a llifeiriol drwy dechneg dan arweiniad ar sail dŵr cyn trosglwyddo eu dyluniadau i ffaniau bambŵ neu sidan.
Roedd y gweithdy yn cynnig egwyl adfywiol o’r diwrnod gwaith tra’n rhoi cyflwyniad ymarferol i draddodiadau artistig Tsieineaidd. Creodd pob unigolyn ffan unigryw wedi’i gwneud â llaw i fynd adref gyda nhw, ac nid oedd angen unrhyw brofiad blaenorol gan fod yr holl ddeunyddiau wedi’u darparu.
Bydd mwy o weithdai diwylliannol creadigol yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf, gan barhau i gynnig cyfleoedd i archwilio celf a thraddodiadau Tsieineaidd mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar.