Tipyn o liw’r gaeaf yn y Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd!
Ar 18 Tachwedd, daethon ni â thipyn o liw’r gaeaf i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. Blodau’r eirin oedd ein hysbrydoliaeth, ac maen nhw’n hoff destun mewn paentio Tsieineaidd. Gall y blodau cain hyn agor tra bo’r tywydd yn dal yn oer, ac maen nhw’n symbol o wydnwch ac yn arwydd cynnar bod y gwanwyn ar ei ffordd.
Fe ddechreuon ni gyda diferyn o inc, gwelltyn a darn o bapur. Gyda phwff ysgafn, rhedodd yr inc ar draws y dudalen. Gyda phwff arall, fe drodd y gangen neu fe rannodd yn ddwy. Dyna oedd yr hwyl – gweld pa siâp oedd yn ymddangos a phenderfynu ble i roi smotyn o liw i greu blodyn.
Edrychon ni hefyd ar sut mae peintwyr Tsieineaidd yn defnyddio’r lle gwag o amgylch cangen i dynnu’r llygad at y blodau. Erbyn diwedd yr awr ginio, roedd gan bob llun ei batrwm ei hun o ganghennau troellog, gyda blodau lliwgar yma ac acw.
Diolch i bawb a dreuliodd eu hawr ginio yn peintio gyda ni!