Trydedd Flwyddyn o Lwyddiant: Myfyriwr Friars yn Cyrraedd y Rownd Derfynol Eto!
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o longyfarch George Wither, Blwyddyn 13 yn Ysgol Friars, ar gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Siarad Pont Mandarin y Cyngor Prydeinig yn Llundain ddiwedd mis Ebrill.
Fel un o ddim ond dau fyfyriwr o Gymru yn y rownd derfynol, mae hon yn gyflawniad arbennig iawn. Mae George hefyd wrthi’n gweithio tuag at sefyll arholiad HSK mewn Mandarin gyda chefnogaeth ein Sefydliad a’i diwtor ymroddedig, Hongmei Wu, y hoffem ddiolch iddi am ei hymdrech a’i chefnogaeth barhaus.
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i fyfyriwr o Ysgol Friars gyrraedd y rownd derfynol—llwyddiant gwych i’r ysgol a’r bartneriaeth.
Pob lwc, George – rydym yn dymuno’r gorau i ti!