Ymlacio, Creu, Ailadrodd: Caligraffeg ym Bangor!
Gwahoddodd gweithdy amser cinio yr wythnos hon gymuned Prifysgol Bangor i oedi a darganfod prydferthwch tawel caligraffeg Tsieineaidd. Dan arweiniad tiwtoriaid o’r Athrofa Gwnfydiws, dysgodd y cyfranogwyr sut y datblygodd cymeriadau pictoglyffig cynnar o ddelweddau a geid yn y byd natur cyn rhoi cynnig ar eu technegau brwsh ac inc eu hunain.
Cynigodd y sesiwn ofod ysgafn i arafu, gyda’r mynychwyr yn archwilio’r cydbwysedd a’r bwriad y tu ôl i bob strôc. Erbyn y diwedd, gadawodd pawb gyda darn bach o gelf a gwerthfawrogiad dyfnach o un o draddodiadau artistig hynaf Tsieina.
Mae’r gweithdy caligraffeg yn rhan o gyfres barhaus sy’n dathlu diwylliant Tsieineaidd, gyda mwy o sesiynau creadigol i ddilyn.