Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich ymarfer arbenigol a dod yn Asesydd?
Mae ein modiwl Asesiad Ymarferol o Ddysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia (SpLDs) wedi 'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr profiadol sydd eisiau dyfnhau eu harbenigedd ac ehangu eu cyfleoedd proffesiynol ym maes anawsterau llythrennedd a dyslecsia.
Mae'r modiwl hwn yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr mewn asesu diagnostig ar gyfer dyslecsia, asesu ar gyfer ymyriadau sgrinio a llythrennedd, asesiadau Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), a threfniadau mynediad, gan eich arfogi â'r sgiliau a'r hyder i weithio ar draws ystod eang o gyd-destunau addysgol.
Mae'r modiwl hwn yn rhan hanfodol o'n Cymhwyster achrededig Asesydd Athrawon Arbenigol Lefel 7 ynghyd â’r modiwlau:
- Ymarferydd Addysgu Arbenigol
- Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrraeth ac Asesu
Mae angen cwblhau'r tri modiwl yn llwyddiannus i gofrestru ar gyfer Tystysgrif Ymarfer Asesu (APC) gyda chorff proffesiynol fel PATOSS, BDA, neu Dyslexia Guild.
Mae cwblhau’r modiwl Ymarferydd Addysgu Arbenigol yn llwyddiannus n galluogi ymgeiswyr i gofrestru ar gyfer ATS neu APS gyda chorff proffesiynol fel PATOSS, BDA, neu Dyslexia Guild.
Ar gyfer pwy y mae’r cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn o fudd i athrawon, tiwtoriaid, staff cymorth addysgu a chynorthwywyr, therapyddion lleferydd ac iaith, a phobl sy’n gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu wahaniaethau dysgu
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhau Ymarferydd Addysgu Arbenigol a Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrraeth ac Asesu neu fod yn agosáu at eu cwblhau. Dylai ymgeiswyr sydd wedi ymgymryd â chyrsiau gyda darparwyr eraill gysylltu â ni i sicrhau mai hwn yw'r modiwl cywir iddynt.
Pam astudio’r cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn galluogi ymgeiswyr i symud ymlaen tuag at achrediad fel ymarferwyr arbenigol ym maes asesu anawsterau llythrennedd a dyslecsia mewn plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth datblygu eu sgiliau llythrennedd. Bydd yr ymgeiswyr yn gallu sgrinio ar gyfer anawsterau llythrennedd er mwyn adnabod dysgwyr sydd angen ymyriadau ychwanegol, asesiadau llythrennedd, asesiadau ar gyfer Lwfans Myfyriwr Anabl (DSA), trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau ac asesiadau diagnostig.
Prif amcanion dysgu:
- Gallu deall a gwerthuso'n feirniadol y berthynas rhwng cryfderau gwybyddol ac anawsterau dysgwyr ar sail data asesu.
- Gallu deall a gwerthuso'n feirniadol asesiadau seicometreg a phrofion addysgol.
- Gallu paratoi adroddiadau technegol yn effeithiol sy'n bodloni meini prawf cyfredol Adroddiad Tystysgrif Ymarfer Asesu SASC.
- Gallu datblygu a dangos y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i arsylwi’n ddiagnostig ac asesu galluoedd gwybyddol ac anawsterau dysgwyr ag anawsterau llythrennedd.
Mae hwn yn fodiwl lefel 7 ac mae angen sgiliau academaidd priodol i astudio ar y lefel hon.
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, gall ymarferwyr ddewis symud ymlaen i hyfforddiant arbenigol pellach, a all arwain at waith asesu gydag oedolion, gan gynnwys asesu ar gyfer cyd-destun addysgol ac archwilio anawsterau sy'n cyd-ddigwydd fel sylw a rheolaeth echddygol.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae'r modiwl dwys hwn sydd wedi'i achredu'n broffesiynol yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 6 mis, gyda 3 mis ychwanegol i gwblhau'r aseiniadau. Mae'r modiwl wedi'i gynllunio i gyd-fynd ag ymarfer proffesiynol.
Dylai ymgeiswyr ddisgwyl ymrwymo tua 12 awr yr wythnos i astudio hunangyfeiriedig er mwyn bodloni gofynion y modiwl. Mae'r amser astudio hwn yn ychwanegol i'r sesiynau addysgu byw, darlithoedd, a hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar asesu.
Rydym yn cydnabod gofynion bywyd gwaith a phroffesiynol, felly mae hyblygrwydd wedi'i adeiladu yn y rhaglen. Rhoddir amser ychwanegol i ymgeiswyr gwblhau'r elfennau asesu ymarferol, gyda hyd at 9 mis ar gael i gwblhau'r modiwl os oes angen. Mae'r cyfnod estynedig hwn yn cynnig mwy o hyblygrwydd, annibyniaeth a rheolaeth dros eich dysgu, tra'n cynnal y trylwyredd a'r safonau uchel a ddisgwylir o gymhwyster Lefel 7.
Y dyddiad cychwyn nesaf yw Medi 2027. Gwnewch gais nawr i sicrhau eich lle.
Gwybodaeth am asesiadau
Mae asesu’r modiwl hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu ac arddangos dealltwriaeth ddamcaniaethol â’r sgiliau asesu ymarferol ac ysgrifennu adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cwblhau cwrs yn llwyddiannus.
Mae’r dulliau asesu yn cynnwys ystod o weithgareddau, megis:
- Aseiniadau ysgrifenedig sy'n archwilio'r fframweithiau damcaniaethol sy'n sail i asesu
- Asesiadau a chwisiau ar-lein i atgyfnerthu gwybodaeth graidd
- Adroddiadau myfyriol sy'n cefnogi arferion beirniadol, moesegol a phroffesiynol
- Tystiolaeth wedi'i ffilmio sy'n dangos sgiliau asesu a rhyngweithio proffesiynol
- Adroddiadau asesu diagnostig ymarfer (DAR)
- Tasgau asesu seicometreg ymarferol, gan gynnwys gweinyddu, sgorio a dehongli
Mae asesiadau ffurfiannol yn cael eu cwblhau drwy gydol y modiwl i gefnogi dysgu ac i ddangos tystiolaeth o ymgysylltu â'r oriau dysgu gofynnol.
Mae asesiadau crynodol yn cael eu cwblhau i ddangos bod yr ymgeisydd wedi bodloni'r safonau proffesiynol ac academaidd sy'n ofynnol i basio'r cwrs yn llwyddiannus ac i symud ymlaen tuag at achrediad.
Tiwtor
Ruth Elliott
Arweinydd DPP yng Nghanolfan Dyslecsia Miles
Athrawes ac asesydd arbenigol o blant ac oedolion ag anawsterau llythrennedd. Mae hi'n athrawes gymwysedig ac yn meddu ar gymhwyster AMBDA gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain. Ar hyn o bryd, hi yw arweinydd datblygiad proffesiynol parhaus yng Nghanolfan Dyslecsia Miles. Mae hi hefyd yn creu cynnwys ac yn ymgynhorydd ar gyfer prosiect CA:LON.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r modiwl yn defnyddio dull dysgu cyfunol, gan gyfuno addysgu ar y campws ym Mhrifysgol Bangor â dysgu ar-lein drwy sesiynau wedi'i recordio ymlaen llaw a sesiynau byw. Gall dysgwyr ddewis astudio'r modiwl cyfan ar-lein os yw'n well ganddynt.
Gall ymgeiswyr sy'n berchen ar offer asesu eu hunain gwblhau'r modiwl yn llawn ar-lein. Bydd angen i'r offer asesu fod yr un fath â'r rhai a ddefnyddir ar y modiwl.
Bydd angen i ymgeiswyr sy'n dewis benthyg offer asesu gan y Ganolfan Dyslecsia Miles fynychu dwy sesiwn wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor. Mae tâl am fenthyg deunyddiau asesu a gwneud defnydd o’r ystafell asesu. Dim ond yng Nghanolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor y gellir defnyddio’r asesiadau.
Mae addysgu ac asesu ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda hyblygrwydd i gwblhau'r ymyrraeth addysgu yn y naill iaith neu'r llall. Rhaid cyflwyno adroddiadau asesu ffurfiol yn Saesneg i fodloni gofynion y cyrff dyfarnu. Dim ond yng Nghanolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor y gellir defnyddio’r offer asesu hyn
Cost y Cwrs
£1850 pan gaiff ei archebu gyda'r modiwl Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrraeth ac Asesu neu Ymarferydd Arbenigol: addysgu dysgwyr ag anawsterau llythrennedd a Dyslecsia (SpLD)
£1950 pan gaiff ei archebu fel modiwl unigol
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr fod wedi:
- cwblhau'r modiwl Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrraeth ac Asesu a bron â chwblhau'r modiwl Ymarferydd Addysgu Arbenigol ar gyfer achrediad proffesiynol, neu gwrs cyfatebol arall.
- O leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith gyda phlant a phobl ifanc mewn addysg neu therapi.
Dylai ymgeiswyr fod yn hyderus eu bod yn gallu astudio ar lefel 7. Gall hyn ddeillio o ddysgu blaenorol, hyfforddiant proffesiynol, neu brofiad gwaith perthnasol.
Cysylltwch â ni os hoffech drafod a ydych yn barod i astudio ar y modiwl hwn.
Bydd angen i sgiliau darllen, ysgrifennu ac iaith lafar fod yn rhugl er mwyn ymdopi â gofynion y modiwl.
Mae hyn yn cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 ar gyfer dysgwyr Saesneg.
Dewisol: Rhuglder mewn ysgrifennu ac iaith lafar Gymraeg ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno ymchwilio i anawsterau iaith Gymraeg, asesu a chyflwyno aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno rhai elfennau o’r modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg ac eraill trwy gyfrwng y Saesneg. Rydym yn croesawu dysgwyr Cymraeg ac yn cynnig cefnogaeth i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg.