Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r hyfforddiant arbenigol chwe wythnos hwn ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn dod ag ymwybyddiaeth ofalgar i gyd-destun un-i-un. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn proses dysgu trwy brofiad, gan ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth berthynol, wrth ystyried ei rhoi ar waith yn eu lleoliad penodol. Bydd yr hyfforddiant o’r budd mwyaf i unigolion sydd eisoes yn gweithio mewn cyd-destun un-i-un megis therapi, hyfforddi, addysgu, caplaniaeth, gofal iechyd, gwaith cymdeithasol, a gwaith gofalu arall.
I bwy mae’r cwrs?
Unigolion sy’n cwmpasu’r canlynol:
- Diddordeb mewn archwilio ymwybyddiaeth ofalgar yng nghyd-destun eu bywydau proffesiynol a gwaith un-i-un, megis hyfforddwyr, therapyddion, athrawon ioga, ffisiotherapyddion, caplaniaid, nyrsys, therapyddion cyflenwol, athrawon, gofalwyr, gweithwyr iechyd cymunedol, ac ati.
- wedi hyfforddi yn y gorffennol i addysgu cwricwlwm rhaglen sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ac eisiau dysgu sut i'w gyflwyno mewn cyd-destun un-i-un.
- yn athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sydd eisiau mynd i’r afael ag agwedd berthynol ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar
Deilliannau Dysgu
- Dysgu, ac ymarfer, sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar perthynol penodol
- Profi'r ffyrdd y gellir defnyddio'r sgiliau hyn mewn cyd-destun un-i-un
- Archwilio’r gwahanol ffyrdd y gellir rhoi ymwybyddiaeth ofalgar ar waith mewn cyd-destun un-i-un
- Dysgu ffyrdd o deilwra'r ddarpariaeth o ymwybyddiaeth ofalgar mewn lleoliadau un-i-un
- Deall ystyriaethau penodol ar gyfer gwaith un-i-un, gan gynnwys goblygiadau o ran arwain ymarfer, sefydlu cynhwysydd dysgu lle gellir archwilio ymwybyddiaeth ofalgar yn ddiogel ac yn effeithiol, ac archwilio themâu dysgu penodol sy'n berthnasol i ymwybyddiaeth ofalgar.
Pa mor hir mae’r cwrs hwn yn cymryd i’w gwblhau?
Cyflwynir y cwrs byr hwn ar-lein dros 3 diwrnod, ar y dyddiadau canlynol:
Ionawr 2027
- Dydd Gwener 8fed cynefino 6.30 – 7.30pm
- Dydd Sul 10fed – Dydd Mawrth 11eg 9.30am – 5pm
- Dydd Mercher 9.30 – 11am
Tiwtor
Dr Bridgette O'Neill
Mae Bridgette O’Neill, DClinPsych, yn uwch-ddarlithydd gyda Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Mae Bridgette wedi addysgu dulliau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn gwasanaethau iechyd meddwl y GIG ar gyfer staff a chleientiaid ers 2002. Mae’n addysgu ac yn hyfforddi’n rhyngwladol ym maes Lleihau Straen Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, a Byw’n Dosturiol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae ei diddordebau ymchwil ac ysgolheictod yn cynnwys potensial dulliau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi mewn materion ‘mwy na’r hunan’ ac ymddygiad o blaid cymdeithas, yn ogystal â rôl encil mewn addysgu sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Cost y Cwrs
- Bydd y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn £456.00 (gan gynnwys TAW).
- Gweler ein tudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.
Gofynion Mynediad
Rhagofynion i fynychu:
- Mae angen i gyfranogwyr fod wedi bod yn myfyrio'n rheolaidd am o leiaf chwe mis gan ddefnyddio arferion sy'n gydnaws â dulliau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
- Byddai cymryd rhan mewn rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar wyth wythnos o hyd o fudd, ac mae'n ofyniad i unrhyw un sy'n addysgu cwricwlwm rhaglen sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
- Mynychu hyfforddiant Hanfodion sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar neu gyfwerth
DS: Nid yw'r hyfforddiant hwn yn seiliedig ar y cwricwlwm. Os ydych eisiau addysgu cwricwla Rhaglen sy'n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar fel rhan o'r dull hwn, bydd angen i chi hefyd gwblhau'r Arbenigwr Cwricwlwm perthnasol (megis MBSR, MBCT).
Rhaid i gyfranogwyr ymrwymo i'r hyfforddiant ar-lein yn ei gyfanrwydd. Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, ni allwn gytuno i unrhyw un gyrraedd yn hwyr na gadael yn gynnar. Os nad yw hynny’n bosibl, cysylltwch â ni i drafod cyn cyflwyno cais.
Gwneud Cais
Archebwch eich lle
I archebu a thalu am eich lle ar y cwrs hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Byddwch yn cael eich cyfeirio at siop ar-lein Prifysgol Bangor, lle gallwch gwblhau eich archeb a’ch taliad yn ddiogel.
Hyfforddiant Arbenigol: Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cyd-destun Un-i-Un