Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Dyddiad Ysgol Haf 2024: Dydd Llun 24 Mehefin - Dydd Mercher 26 Mehefin
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i gynllunio i gynnwys:
- Gweithdai ar economeg iechyd, gweithio gyda phartneriaid anacademaidd, defnyddio'r teclyn asesu anghydraddoldebau iechyd (HIAT), cyhoeddi, cynnwys y cyhoedd a chleifion, dulliau'n seiliedig ar y celfyddydau, ac effaith.
- Cyfle i gyflwyno'ch ymchwil
- Siaradwr gwadd arbennig
- Sesiwn datblygu gyrfa
Ar ddiwedd y cwrs byr hwn, bydd modd i’r dysgwyr dderbyn Tystysgrif Cwblhau a fydd yn tystiolaethu 14 awr o DPP.
Mae copi o'r rhaglen arfaethedig ar gael yma:
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r ysgol haf hon wedi'i hanelu at ymchwilwyr ôl-radd ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae croeso i chi rannu eich ymchwil mewn cyflwyniad deng munud.
Pam astudio’r cwrs?
Erbyn diwedd yr ysgol haf hon, bydd y cynrychiolwyr:
- wedi datblygu a gwella sgiliau hanfodol
- wedi cael cyfle i gyflwyno a thrafod eu hymchwil
- wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
3 diwrnod astudio, ar y dyddiadau canlynol, ar ein campws ym Mangor:
- Dydd Llun 24 Mehefin i Dydd Mercher 26 Mehefin 2024.
Tiwtors
Dr Lorelei Jones
Mae Dr Lorelei Jones yn anthropolegydd meddygol sydd â diddordeb mewn trefniadaeth, gwybodaeth, proffesiynau ac arferion gofal.
Mae ei hymchwil ym maes trefniadaeth gymdeithasol gofal iechyd ac mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys:
- Ansawdd a diogelwch gofal ysbyty
- Arweinyddiaeth Feddygol, arloesi a newid sefydliadol
- Arweinyddiaeth systemau, cydweithredu a gofal integredig
- Gweithredu a gwerthuso polisïau
Mae Dr Jones yn gwneud ymchwil amlddisgyblaethol a throsi (theori i ymarfer) gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau yng Ngogledd Cymru a chyfrannu at ddysgu rhyngwladol.
Mae Lorelei yn Gymrawd y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol, yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn aelod gweithredol o'r Gymdeithas Astudiaethau Trefnu Gofal Iechyd, ac yn aelod o'r Pwyllgor Gwyddonol ar gyfer y gynhadledd ryngwladol ar Ymddygiad Sefydliadol mewn Gofal Iechyd.
Yr Athro/Prof. Ellen Stewart
Athro Polisi Cyhoeddus ac Iechyd yw Ellen ym Mhrifysgol Glasgow, a chyn hynny bu’n gyd-gyfarwyddwr y Centre for Health Policy ym Mhrifysgol Strathclyde, ac yn Chancellor’s Fellow yn y Centre for Biomedicine, Self & Society ym Mhrifysgol Caeredin. Ar hyn o bryd mae’n arwain ymchwil sy’n edrych ar ddulliau elusennol cyfoes o godi arian yn y GIG yn y Deyrnas Unedig, ac yn 2023 cyhoeddodd How Britain Loves the NHS: Practices of Care and Contestation (Policy Press).
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Erbyn diwedd yr ysgol haf hon, bydd y cynrychiolwyr:
- wedi datblygu a gwella sgiliau hanfodol
- wedi cael cyfle i gyflwyno a thrafod eu hymchwil
- wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd
Gwybodaeth bellach
Mae croeso i chi rannu eich ymchwil mewn cyflwyniad deng munud.
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Mae'r ysgol haf hon wedi'i hanelu at ymchwilwyr ôl-radd ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.