Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nod y rhaglen hon yw dyfnhau gwybodaeth myfyrwyr am gyfryngau ac ymarfer, trwy eu galluogi i wneud gwaith ymchwil ym maes theori cyfryngau, cyfathrebu a ffurfiau ar y cyfryngau. Gan bwyso ar ystod eang o arbenigedd, cewch gyfle i ddatblygu, cynnal, cyfnerthu a chwblhau rhaglen waith hunangyfeiriedig ym maes y cyfryngau - naill ai'n greadigol neu'n ddamcaniaethol - dros gyfnod estynedig o amser. Rhennir y rhaglen yn ddau fodiwl hyfforddedig a darn sylweddol o waith annibynnol, a wneir dan oruchwyliaeth staff proffesiynol arbenigol.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus am y rhaglen hon radd gyntaf ragorol mewn disgyblaeth berthnasol neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfwerth, yn ogystal â’r gallu i weithio'n annibynnol i gwblhau project hunangyfeiriedig.
Noder bod yr MRes hwn yn cael ei ddysgu ar gampws Prifysgol Bangor. NID yw opsiynau Dysgu o Bell a Dysgu Cymysg ar gael ar gyfer y rhaglen hon.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.i dda neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfatebol. Sgôr IELTS o 6.5 (dim cydran yn is 6.0), neu gyfwerth, os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf.