Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r Rhaglen MA ran-amser sydd wedi ennill ei blwyf yn gadarn erbyn hyn yn rhoi cyfleoedd hyblyg i chi astudio modiwlau mewn ystod eang o feysydd pwnc i wella'ch datblygiad proffesiynol eich hun. Mae’r cynllun o bum penwythnos y flwyddyn y mae’r rhaglen Feistr wedi’i seilio arno yn addas i bobl leol ac i rai sy’n teithio ymhellach, ac mae’n cynnig awyrgylch gefnogol a chyfeillgar i astudio ynddi.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Astudiaethau Addysg (Rhan-amser) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr naill ai radd gyntaf, cymhwyster cyfatebol cydnabyddedig, neu o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Gofynnir i ymgeiswyr roi enw canolwr a all dystio i allu’r ymgeisydd i astudio ar lefel Meistr. Yn achlysurol gellir gofyn i ymgeiswyr ddod am gyfweliad cyn y gellir cadarnhau cynnig o le iddynt. Gall rhai modiwlau bennu gofynion mynediad penodol ychwanegol, er enghraifft, profiad blaenorol o addysgu.
Gyrfaoedd
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar y cwrs hwn yn athrawon gweithredol, cwnselwyr neu weithwyr cymdeithasol y mae cymhwyster lefel Meistr yn ffordd wych o ddatblygu eu gyrfaoedd. Gyda dewis rhydd o fodiwlau, gallwch ddewis y meysydd pwnc sy'n berthnasol i'r gwaith rydych eisoes yn ei wneud, neu i'r gwaith rydych chi'n anelu at ei wneud. Bydd y radd Meistr ran-amser hon mewn Astudiaethau Addysg yn rhoi’r hyder a’r gallu i chi ysgwyddo cyfrifoldebau newydd, neu i ddechrau cyfeiriad hollol wahanol yn eich gyrfa.
Gwneud Cais
We regret that we are unable to accept applications from international students for this course.
Home/EU students: apply online yourself with the help of our Guidance Notes on online application for Home/EU students. We strongly recommend you read these before you start to apply online.
Once you have read the Guidance Notes you should apply using our Online Application form.
Need help applying? Home/EU students please contact:
Postgraduate Admissions: postgraduate@bangor.ac.uk or write to:
Admissions Office
Bangor University
Gwynedd
LL57 2DG
Telephone: +44 (0)1248 388484