Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r MSc Cefnfor Digidol ym Mhrifysgol Bangor yn rhaglen arloesol, amlddisgyblaethol sydd wedi’i dylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau meithrin technolegau digidol blaengar i archwilio, dadansoddi a deall yr amgylchedd morol. Gan gyfuno arbenigedd mewn eigioneg, rhaglennu, gwyddor data, a dysgu peirianyddol, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar raddedigion i fynd i'r afael â heriau byd-eang mewn gwyddor môr, newid yn yr hinsawdd, a chynaliadwyedd morol.
Manteision y cwrs:
- Dull rhyngddisgyblaethol: Enillwch arbenigedd mewn gwyddorau’r eigion, rhaglennu, a dadansoddeg data i fynd i'r afael â heriau morol y byd go iawn.
- Hyfforddiant technegol uwch: Dysgwch sgiliau y mae galw mawr amdanynt mewn Python, MATLAB, GIS, a dysgu peirianyddol.
- Addysgu dan arweiniad ymchwil: Manteisiwch ar arbenigedd Bangor a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn gwyddor môr a thechnolegau cefnforol digidol.
- Sgiliau paratoi am yrfa: Mae graddedigion wedi'u paratoi'n dda am yrfaoedd mewn ymchwil forol, ymgynghoriaeth amgylcheddol, systemau arsylwi’r cefnfor, a gwyddor data.
Mae'r radd MSc hon yn ddelfrydol i fyfyrwyr â chefndir mewn gwyddor môr, gwyddor yr amgylchedd, neu ddisgyblaethau cysylltiedig sydd am ddefnyddio arloesedd digidol i drawsnewid ein dealltwriaeth o'r cefnfor. Os ydych chi'n angerddol am amgylchedd y môr ac eisiau datblygu sgiliau technegol blaengar i'w astudio a'i warchod, yn ogystal â rhoi hwb i'ch gyrfa, mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r MSc Cefnfor Digidol yn darparu sylfaen gref mewn egwyddorion eigioneg, gwyddor hinsawdd, a dulliau sy'n cael eu gyrru gan ddata. Byddwch yn dysgu sut i weithio gyda setiau data morol helaeth, gan ennill arbenigedd mewn rhaglennu, dysgu peirianyddol, a delweddu gwybodaeth i gael mewnwelediadau ystyrlon am y cefnfor.
Mae meysydd astudio craidd yn cynnwys:
- Hinsawdd a Newid hinsawdd, deall system hinsawdd y Ddaear, newid hinsawdd y gorffennol a'r dyfodol, a rôl y cefnfor wrth reoleiddio hinsawdd fyd-eang.
- Delweddu gwybodaeth, datblygu sgiliau i gyfleu data eigionegol cymhleth yn effeithiol trwy dechnegau delweddu digidol.
- Rhaglennu a gwyddor data, dysgu rhaglennu yn Python a MATLAB i ddadansoddi a modelu data eigionegol, gyda ffocws ar gymwysiadau byd go iawn.
- Dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial (AI), gan archwilio modelu rhagfynegol ac atebion sy'n cael eu gyrru gan AI ar gyfer ymchwil a chadwraeth forol.
- Dadansoddi data cefnfor, dysgu defnyddio’r offer diweddaraf megis systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS), modelu rhifiadol, a synhwyro o bell i ddehongli dynameg cefnforoedd.
Profiad Ymarferol
Mae profiad ymarferol wrth galon y rhaglen hon ac rydym yn darparu dysgu ymarferol a mynediad at gyfleoedd ymchwil cyffrous. Byddwch yn gweithio gyda setiau data eigioneg y byd go iawn, gan gynnwys arsylwadau lloeren, rhwydweithiau synwyryddion, a data pysgodfeydd. Mae'r cwrs hwn hefyd yn pwysleisio technegau cyfrifiannol a sgiliau meintiol, gan sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd mewn technoleg forol, arsylwi cefnforoedd, a gwyddor data amgylcheddol.
Project Unigol
Y Project Unigol MSc yw pinacl y rhaglen, lle byddwch yn ymgymryd â phroject ymchwil annibynnol sy'n cyd-fynd â'n hymchwil forol flaengar. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gymhwyso'ch arbenigedd technegol i bwnc o'ch dewis, gan weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion y cwrs Cefnfor Digidol MSc wedi'u paratoi'n dda am yrfaoedd mewn ymchwil forol, ymgynghoriaeth amgylcheddol, systemau arsylwi’r cefnfor, a gwyddor data.