Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae polisïau cymdeithasol yn newid o hyd. Mae'r rhaglen radd hon yn cymryd y datblygiadau i ystyriaeth ac yn eu cysylltu â ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Cyflwynir safbwyntiau damcaniaethol a goblygiadau methodolegol. Trafodir ystod o faterion cyfoes yn ymwneud â pholisi cymdeithasol. Cymherir polisïau a dulliau gweithredu o fewn cymdeithasau ac ar eu traws. Tynnir sylw at ddimensiynau moesegol polisi cymdeithasol a darperir hyfforddiant ymchwil arbenigol.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser. 2-3 blynedd rhan-amser hefyd. Gellir dechrau'r rhaglen hon naill ai ym mis Ionawr neu fis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Gofynion Mynediad
Fel rheol 2.i mewn Polisi Cymdeithasol neu ddisgyblaeth academaidd gysylltiedig. Gellir derbyn myfyrwyr sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol hefyd. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd yn y categori hwn ddarparu tystiolaeth gadarn yn eu cais a gellir eu cyfweld cyn gwneud cynnig iddynt.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.