Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn cyfuno arbenigedd Prifysgol Bangor mewn Troseddeg a Chymdeithaseg ac yn archwilio cyd-destun cymdeithasegol materion yn ymwneud â Throseddeg. Astudir amrywiaeth eang o bynciau Troseddeg a Chymdeithaseg er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o sbectrwm eang o bynciau yn y meysydd hyn, gan gynnwys trosedd; sefydliadau a gweinyddiaethau ym maes cyfiawnder troseddol; achosion cymdeithasol trosedd a chanlyniadau hynny; newid cymdeithasol a strwythurau cymdeithasol; diwylliant a hunaniaeth; a materion cysylltiedig.
Mae natur eang ond arbenigol y radd hon yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth a sgiliau uwch ac arbenigol mewn ymchwil troseddegol a chymdeithasegol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Troseddeg a Chymdeithaseg .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd sengl neu gyd-anrhydedd (2.ii da, neu gyfwerth yn achos deiliaid graddau o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig) mewn Troseddeg, Cymdeithaseg, Y Gyfraith, Gwyddor Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Cymdeithasol, Polisi Cymdeithasol, Seicoleg neu ddisgyblaeth academaidd gysylltiedig.
Gellir derbyn myfyrwyr sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol hefyd. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd yn y categori hwn ddarparu tystiolaeth gadarn yn eu cais a gellir eu cyfweld cyn gwneud cynnig iddynt.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.