Cynigion gan brifysgolion
Ar ôl i chi gael eich holl gynigion, rhaid i chi wneud un dewis cadarn, un dewis yswiriant a gwrthod pob cynnig arall.
Beth yw dewis cadarn?
Eich prifysgol dewis cadarn ddylai fod yr un yr hoffech fynd iddi fwyaf. Trwy wneud hon yn ddewis cadarn, rydych yn dweud eich bod yn cytuno i astudio yma cyn belled â'ch bod yn bodloni amodau eich cynnig.
Beth mae dewis yswiriant yn ei olygu?
Eich dewis yswiriant yw eich dewis o brifysgol wrth gefn, felly os na fyddwch yn cael y graddau angenrheidiol i’ch dewis cadarn, gobeithio y byddwch wedi bodloni amodau'r brifysgol dewis yswiriant. Wrth wneud eich dewis yswiriant mae'n syniad da sicrhau y gallwch fodloni'r amodau hynny. Peidiwch â dewis prifysgol sy'n gofyn am amodau tebyg i'ch dewis cadarn.