Fy ngwlad:
""

Dathlu Dysgu Cymunedol ym Mhrifysgol Bangor

Yn ystod y noson

Bydd cyfle i:

  • Glywed ein siaradwr gwadd, Ieuan Wyn Jones, yn trafod pwysigrwydd dysgu gydol oes
  • Ddarganfod mwy am effaith partneriaeth dysgu cymunedol Prifysgol Bangor â Grŵp Llandrillo Menai
  • Glywed gan ddysgwyr a staff sydd wedi bod yn rhan o’r ddarpariaeth
  • Archwilio cyfleoedd i ddal ati gyda’ch dysgu
  • Cyfarfod â dysgwyr eraill, staff a phartneriaid cymunedol dros luniaeth

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r digwyddiad yn agored i ddysgwyr, staff, partneriaid ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu cymunedol, dysgu gydol oes neu ehangu mynediad at addysg uwch.

Mae croeso arbennig hefyd i gydweithwyr sydd â diddordeb mewn cynnig cwrs byr neu gyfrannu at weithgarwch dysgu cymunedol yn y dyfodol. Rydym wrthi’n datblygu rhaglen y flwyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd, a byddem yn falch o gael sgwrs gyda chi.

Iaith a chyfieithu

Cynhelir y digwyddiad yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael i’r rhai sydd ei angen.