Fy ngwlad:
""

HYFFORDDIANT WEDI EI DEILWRA I SEFYDLIADAU

Rhaglenni wedi'u teilwra sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion penodol eich sefydliad a'ch gweithlu chi. 

Datblygu Arweinwyr, Mynd i'r Afael â Heriau, Cryfhau Sgiliau 

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol i ddylunio a darparu hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd â'ch anghenion.

Mae ein dull hyblyg yn tynnu ar arbenigedd academaidd a phroffesiynol Prifysgol Bangor i addasu hyfforddiant at ddibenion eich sector, a blaenoriaethau ac anghenion eich gweithlu chi, neu i ddylunio rhaglen gwbl bwrpasol sydd wedi'i theilwra o amgylch amcanion eich sefydliad.

Ydych chi’n chwilio am rywbeth sydd wedi'i deilwra’n arbennig i'ch sefydliad chi? Cysylltwch â ni heddiw i drafod eich gofynion.

Cyflwyno cais am hyfforddiant wedi'i deilwraAnfon e-bost at ein TîmTrefnu cyfarfod gyda'n Tîm

""

Pam Dewis Rhaglenni Wedi'u Teilwra? 

Arbenigedd Prifysgol 
Cyrsiau sy’n cael eu datblygu a'u cyflwyno gan academyddion, arbenigwyr o ddiwydiant ac ymarferwyr profiadol. 

Wedi'i deilwra i'ch sefydliad
Byddwn yn cydweithio â chi i ddatblygu rhaglenni sy’n addas i amcanion a heriau eich sefydliad chi. 

Darpariaeth hyblyg
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau darparu i gyd-fynd â gofynion eich sefydliad. 

Canlyniadau Diriaethol
Dysgu ymarferol sydd wedi'i gynllunio i greu effaith uniongyrchol yn eich gweithle.

Gweithio mewn Partneriaeth

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall anghenion eich sefydliad, nodi'r arbenigedd cywir ym Mhrifysgol Bangor, a llunio hyfforddiant sy'n ymarferol, yn berthnasol ac yn cyd-fynd â'ch nodau. O'r ymholiad cychwynnol hyd at gyflwyno’r cwrs, ein nod yw sicrhau dysgu sy'n cefnogi eich pobl ac yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i'ch sefydliad.

Dyfyniad Astudiaeth Achos gan Adra

""

"Bu Prifysgol Bangor yn gweithio gyda ni i ddatblygu rhaglen bwrpasol mewn rheoli ac arwain, wedi’i halinio â blaenoriaethau Adra a’n ffocws ar feithrin diwylliant cryf, cydweithredol fel ‘un tîm’. Daeth y rhaglen ag arbenigedd o wahanol feysydd at ei gilydd, gan gynnwys arweinyddiaeth, cyfathrebu, newid ymddygiad, gwydnwch a lles yn y gweithle. Roedd y sesiynau’n ymarferol, yn berthnasol i’n cyd-destun ni, ac yn gyfle gwerthfawr i’n rheolwyr fyfyrio ar eu harferion a chefnogi newid cadarnhaol ar draws y sefydliad."

Dyfyniad Astudiaeth Achos gan Gisda

""

"Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Bangor i uwchsgilio ein staff ym maes diogelu. Mae’r hyfforddiant wedi ein helpu i gydymffurfio â Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol Cymru, ond hefyd wedi rhoi gofod gwerthfawr i’n staff rannu profiadau, datblygu eu dealltwriaeth a chryfhau eu gallu i gefnogi eraill. Mae cael mynediad at arbenigedd Gwenan a Wendy, sy’n hyfforddwyr profiadol ac yn addysgu ar y Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn rhywbeth rydym yn ei werthfawrogi’n fawr."

Darganfyddwch Sut Mae Ein Hyfforddiant yn Gwneud Gwahaniaeth

Felly, rydym wedi datblygu cwrs Hyfforddi Hyrwyddwr Gweithle Egnïol er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu cymdeithas heddiw, sef lefelau annigonol o weithgarwch corfforol. Mae’r gweithle yn cynnig cyfle gwych i ni wneud hynny. Rydym yn treulio llawer o amser yn y gwaith, ac mae hynny’n rhoi cyfle unigryw i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ac annog pobl i symud mwy fel rhan o’u bywydau bob dydd.

Wrth gwrs, mae manteision hyn i’r gweithiwr a’r cyflogwr wedi’u sefydlu’n gadarn gan dystiolaeth ymchwil. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod y newid diwylliannol rydym yn ceisio’i gyflawni yn arwain at ganlyniadau sydd o fudd i bawb.
Mae’r rhaglen hyfforddi hon yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a symud yn eu gweithle. Gellir ei darparu i weithwyr neu gyflogwyr ar unrhyw lefel, ond y peth pwysicaf yw bod ganddynt awydd i gyfrannu at newid diwylliant a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl fod yn fwy egnïol yn y gweithle.

Yr hyn rydym yn canolbwyntio arno yma yw defnyddio symudiad a gweithgarwch corfforol fel cyfrwng i wella gallu pobl. Mewn geiriau eraill, rydym yn ceisio gwella iechyd corfforol, iechyd meddwl ac emosiynol, yn ogystal ag iechyd a lles cymdeithasol.
Mae newid ymddygiad yn heriol iawn, ac mae annog pobl i fabwysiadu ymddygiadau iach yn arbennig o heriol. Yn aml, mae cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a symud mwy yn gofyn am lawer o ymdrech a chymhelliant, ynghyd â nifer o ffactorau eraill sy’n ymwneud â diwylliant eich sefydliad.

Mae’r cwrs ei hun yn ddigon hyblyg i’w gynnig wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy ddull dysgu cyfunol. Mae hefyd yn cynnig cymorth parhaus wedi’i deilwra drwy hyfforddi a mentora. Yn ogystal, mae’n darparu cymorth gyda chynllunio gweithredu, gan ystyried sut y gallai’r newid diwylliannol hwn edrych, pa gamau y gellid eu cymryd dros amser, a pha adnoddau fyddai eu hangen i wireddu’r newid a ddymunir.

Mae’r broses yn dechrau gyda chamau bach – cyfarfodydd cerdded, defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft, neu sefyll wrth eich desg. O’r fan honno, mae’n tyfu ac yn datblygu wrth i’ch hyder gynyddu a wrth i’ch perthynas â symud ddatblygu. Wrth i’r profiadau cadarnhaol sy’n deillio o symud gynyddu, maent yn arwain at gylch cadarnhaol o welliannau mewn iechyd corfforol, lles emosiynol a meddyliol, yn ogystal â lles cymdeithasol.

Rwy’n credu bod newid ymddygiad yn anodd, ac mae cynnal ymddygiadau iach dros y tymor hir yn heriol. Mae’n gofyn am lawer o gymhelliant, ond mantais y gweithle yw bod modd gwneud y newidiadau hyn fel rhan o’r diwrnod gwaith. Rydym yn defnyddio dull ‘hyfforddi’r hyfforddwr’, gan helpu sefydliadau i ddatblygu’r gallu i gynnal y newid eu hunain. Mae hyn yn gwneud y broses yn fwy cynaliadwy ac yn fwy realistig, gan alluogi sefydliadau i fynd i’r afael yn effeithiol â’r newid ymddygiad sydd ei angen er mwyn sicrhau manteision gweithgarwch corfforol a symud.

Ydych chi'n ysgol sydd am ddatblygu diwylliant o ymchwil ac ymholi sy'n agos at ymarfer?

Mae Ysgol Addysg Prifysgol Bangor yn cynnig ystod o gyrsiau a hyfforddiant pwrpasol i sicrhau y gallwch chi a'ch ysgol roi eich ymchwil ar waith yn hyderus.

Cysylltwch trwy'r dolenni isod am fwy o wybodaeth.

Gwennan Prysor dwi a dwi'n gyfarwyddwr y cwrs M.A. Gwaith Cymdeithasol yn y brifysgol ym Mangor. Enw fi ydi Wendy Roberts a dwi'n ddarlithydd gwaith cymdeithasol yma ym Mhrifysgol Bangor.  Mae Gwenan a fi hefyd yn weithwyr cymdeithasol cofrestredig ac mae gennym gefndir o weithio ym maes plant a phobl ifanc a theuluoedd, a hefyd wedi gwneud gwaith diogelu dros y blynyddoedd.  

Mae diogelu yn elfen bwysig iawn o'r cwrs M.A. a hyfforddiant gwaith cymdeithasol felly roedd yn gwneud synnwyr i ni ddatblygu cwrs diogelu, a hyfforddiant ar ddiogelu sydd yn cydymffurfio efo'r gofynion a safonau diogelu sydd wedi cael ei ddiweddaru yn ddiweddar gan Gofal Cymdeithasol Cymru.  

Mae'n bwysig bod unigolion yn teimlo'n hyderus o ran gwaith diogelu ac yn deall ei rôl nhw a'r prosesau o ran y maes diogelu. Ar yr hyfforddiant 'da ni' n cynnig 'da ni'n trio gwneud hynny mewn ffordd creadigol i gefnogi'r unigolyn efo'i ddysgu.  

Rydym yn cynnig hyfforddiant dwyieithog pwrpasol sydd yn cyd-fynd efo Grŵp B a Grŵp C o fewn y safonau ac yn agored iawn i drafod unrhyw anghenion perthnasol sydd gennych chi o fewn eich sefydliad chi.  

Mae dysgu am ddiogelu yn bwysig iawn hefyd. Mae adnabod arwyddion camdriniaeth a hefyd gwybod be i wneud os mae rhywun yn datgelu camdriniaeth yn bwysig iawn fel bod sefydliadau ac unigolion efo'r wybodaeth a'r sgiliau i weithredu yn union a'i cyfrifoldebau.  

Cysylltwch efo ni i drafod cwrs pwrpasol ar gyfer eich staff ac asiantaeth chi.

Gall gwaith dwys iawn sy'n heriol yn emosiynol fod yn werth chweil, ond gall hefyd effeithio ar eich meddwl, eich corff a'ch perfformiad.

Mae hunanofal ystyriol yn y gwaith yn gwrs sydd wedi ei gynllunio i'ch helpu i adfer cydbwysedd, i feithrin gwydnwch ac amddiffyn eich hun rhag chwythu plwc, nid yn unig nawr ond hefyd yn y tymor hir.

Fe ddewch o hyd i ymarferion pwerus sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth o falgar,

a thosturi a fydd yn eich helpu i ymdopi â phwysau yn y gweithle gyda fwyll wrth aros mewn cysylltiad â'r hyn sy'n wirioneddol bwysig gyda dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth wraidd y rhaglen hon.

Mae'n cefnogi rheoleiddio emosiynol ac yn eich helpu i ymateb eich hun ac i eraill gyda mwy o dosturi.

Mae hyn yn fwy na rheoli straen mae'n ymwneud â thyfu eich gallu i ffynnu.

Os ydych chi'n teimlo mai goroesi ydych chi

Ond eich bod chi'n awyddus i ffynnu, er eich lles chi'ch hun ac er lles y rheidach chi'n gweithio ac yn eu cefnogi, ymunwch efo ni ar ein cwrs nesa, neu ma' croeso i chi gysylltu efo ni i weld sut gall y cwrs hyd yn ofal ystyriol eich cefnogi chi neu eich tîm ymhellach.

Cadwch lygad ar y cyrsiau byr, yr hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus a’r cyfleoedd dysgu hyblyg sydd ar gael gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor

Ymunwch â’n rhestr bostio