Rydym yn deall y gall aelodau o'r teulu fod eisiau cysylltu â myfyriwr weithiau ond yn methu â gwneud hynny. Gan fod Prifysgol Bangor yn amgylchedd sefydliad addysgiadol i oedolion a disgwylir i fyfyrwyr gymryd lefel cyfrifoldeb oedolyn a meddu ar y sgiliau angenrheidiol i astudio a byw'n annibynnol.
Mae myfyrwyr felly yn gyfrifol am bob cyfathrebu â'r brifysgol, p'un a ydynt wedi cyrraedd 18 oed ai peidio. Mae hyn yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Pholisi Diogelu Data’r brifysgol.
Mae cefnogi iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr yn bwysig i ni. Un ffordd o wneud hyn yw gofyn i fyfyrwyr roi manylion i ni am eu cyswllt dibynadwy.
Beth yw cyswllt dibynadwy?
Cedwir yr holl ddata personol yn gyfrinachol ac ni chaiff ei ddefnyddio heb gydsyniad y myfyriwr oni bai bod rheswm i gredu y byddai defnyddio’r manylion cyswllt heb ganiatâd yn lleihau risgiau difrifol sy’n ymwneud â lles neu niwed.
Dyma enghreifftiau o sut y gallem ddefnyddio manylion cyswllt dibynadwy myfyriwr:
- Cael eu derbyn i'r ysbyty mewn argyfwng
- Cael eu hanafu'n ddifrifol, gan gynnwys hunan-niweidio
- Ddim yn ymwneud â'u hastudiaethau, ddim yn ymateb i ymdrechion mynych i gysylltu â nhw, a heb gael eu gweld yn eu neuadd breswyl
- Bod ganddynt salwch parhaus ac yn ymddangos fel pe baent yn dirywio
- Lle mae pryderon difrifol am eu lles, er enghraifft bod eu hiechyd meddwl yn ymddangos fel pe bai'n dirywio neu eu bod yn defnyddio cyffuriau / alcohol mewn symiau risg uchel.
Gall y brifysgol rannu gwybodaeth am eu cyswllt dibynadwy gyda’r gwasanaethau brys os gofynnir iddynt wneud hynny heb gydsyniad penodol y myfyriwr os bydd amgylchiadau’n cyfiawnhau hynny. Er enghraifft:
- Os credwn fod hyn er eu lles gorau
- Gall helpu i atal niwed iddynt neu rywun arall
- Gofynnir amdano fel rhan o ymchwiliad yr heddlu
- Neu gall fod yn ddefnyddiol i'r gwasanaethau brys at ddiben eu derbyn i'r ysbyty.
Beth fydd y brifysgol ddim yn ei wneud
Ni fyddwn yn defnyddio manylion y cyswllt dibynadwy i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb, graddau, neu fywyd y myfyriwr yn y brifysgol. I gael gwybodaeth am sut rydym yn cyfathrebu â 3ydd partïon, gweler ein polisi (dolen).