Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Owain Arwel Hughes @ 80
WEDI EI GANSLO - Sylwch, mae'r digwyddiad hwn wedi'i ganslo oherwydd achosion o Covid yn y gerddorfa. Bydd pob deiliad tocyn yn cael ei ad-dalu gan y lleoliad.
Andrew Lewis - In Memory (Première Byd)
Elgar - Serenade Op. 2
Fauré - Pavane
Handel - Detholiad o Water Music Suite (trefniant Hamilton Harty)
Brahms - Symffoni Rhif 2
Rydyn ni mor falch cael bod yn ôl yn teithio yn y gwanwyn dan arweiniad y Cymro uchel ei barch, Owain Arwel Hughes, i ddathlu ei ben-blwydd yn 80.
Yn yr hanner cyntaf, ffefrynnau clasurol gan Elgar, Faure a Handel. A première byd o In Memory gan Andrew Lewis sy'n gomisiwn ar gyfer dathliadau #Cerdd100 Prifysgol Bangor. Yn yr ail hanner cawn Ail Symffoni Brahms. Cymerodd Symffoni Gyntaf Brahms bron i 20 mlynedd i’w chwblhau. Yn gwbl groes i hynny, cafodd ei ail ei ysgrifennu yn ystod un gwyliau haf yn Portschach – ardal alpaidd ger Wothersee a oedd hefyd wedi ysbrydoli Mahler a Berg.
Gellir archebu tocynnau ar wefan Pontio: https://www.pontio.co.uk/online/article/22BBCNOW
Darllenwch fwy am gyfansoddiad Andrew Lewis ‘In Memory’ yma