Cerddoriaeth i Linynnau André Jolivet
gan (Dr Caroline Rae, Cardiff University)
Dr Caroline Rae (Prifysgol Caerdydd)
Cerddoriaeth i Linynnau André Jolivet
Roedd André Jolivet (1905-1974) ymhlith cyfansoddwyr pwysicaf Ffrainc yn yr ugeinfed ganrif. Bu Jolivet yn ddisgybl i Varèse ac yn gydweithiwr i Messiaen yn La Jeune France. Ffurfiodd iaith gerddorol newydd arloesol yn y 1930au a ddylanwadodd ar Messiaen a Boulez. Ar ôl cyfnod o ailgyfeirio arddulliau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ailddatganodd Jolivet ei raison d’être cyfansoddol ym 1946 fel adfer ‘ystyr wreiddiol hynafol cerddoriaeth pan oedd yn fynegiant hud a lledrith a swyn-ganiadol o’r cysegredig mewn cymunedau dynol’, agwedd ddyneiddiol a dreiddiodd drwy’r rhan fwyaf o'i gerddoriaeth ddilynol. Er bod Jolivet yn fwyaf adnabyddus am ei weithiau cerddorfaol a'i gerddoriaeth siambr i'r piano a'r ffliwt, cyfansoddodd gorff sylweddol o gerddoriaeth i linynnau o'r 1930au hyd at ei flynyddoedd olaf. Cyfansoddodd ei weithiau ffidil cynnar i’r feiolinydd Martine Barbillon, gwraig gyntaf y cyfansoddwr, ei Driawd Llinynnol a'i Bedwarawd Llinynnol - a oedd yn cynnwys digyweiriaeth fynegiannol debyg i Berg - a ddenodd edmygedd Messiaen yn gyntaf. Mae gweithiau Jolivet i’r sielo’n cynnwys darnau unigol yn ogystal â dau Goncerto o'r 1960au a gomisiynwyd gan André Navarra a Mstislav Rostropovich, hwythau. Ysgrifennwyd Concerto Ffidil Jolivet, un o'i weithiau gorffenedig olaf, i Leonid Kogan. Yn ogystal, cyfansoddodd Jolivet gyfres o weithiau arbrofol digyfeiliant yn ogystal â gweithiau i gerddorfa linynnol, a gynrychiolai rai o'i ddatganiadau cerddorol mwyaf personol. Mae’r sgwrs hon gydag enghreifftiau yn rhoi’r gweithiau hynny a esgeuluswyd yn anhaeddiannol yn eu cyd-destun er mwyn amlygu eu pwysigrwydd yn repertoire llinynnol yr ugeinfed ganrif.