Challenging time(s): Exploring how we shape the past and future of Eryri through the exchange of material culture
Darlith Flynyddol yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Ymchwilydd Doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Alex Ioannou yn traddodi Darlith Flynyddol yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig eleni ar ddydd Mercher, 12fed o Dachwedd.
Traddodwyd darlith flynyddol gyntaf yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig gan yr Athro Owen Dudley Edwards fis Hydref 2011. Ar y diwrnod hwn, gosodwyd cynsail ac ers hynny mae'r Archifau wedi llwyddo i greu rhaglen liwgar o ddarlithoedd cyhoeddus sydd yn apelio at aelodau’r Brifysgol a defnyddwyr allanol hefyd. Yn draddodiadol, mae’r Archifydd yn gwahodd siaradwyr sydd wedi treulio cryn amser yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig ymchwilio i bwnc penodol neu rywun sy’n arbenigo mewn pwnc sydd yn berthnasol i’r adran. Mae prosiect doethuriaeth Alex Ioannou o'r enw 'Ail-fframio Eryri Mewn Arfer' yn fenter ar y cyd rhwng Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts.
Rydym yn byw mewn cyfnod heriol a nodweddir gan newid a phryder dwfn ynghylch nifer o faterion gan gynnwys newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth.
Yn ei ddarlith 'Challenging time(s): Exploring how we shape the past and future of Eryri through the exchange of material culture', bydd Alex yn rhannu sut mae ei ymchwil yn ceisio 'tarfu' ar ddealltwriaethau dominyddol o Eryri. Mae ei ddarlleniad manwl o dystiolaeth hanesyddol a deunydd archifol, yn ogystal â gwaith cydweithredol gyda chymunedau lleol yn Nyffryn Ogwen, yn datgelu dealltwriaethau cyfoethog ac amrywiol o dirweddau Cymru.
Mae ei brosiect parhaus Newid Eryri yn taflu goleuni ar y ffyrdd y mae Eryri eisoes wedi newid, o'r prosesau cudd sy'n gynhenid i lunio canfyddiadau o'i thirwedd, i'r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed gan Ystâd hanesyddol arwyddocaol Penrhyn.
Wrth ragweld newid yn y dyfodol o fewn y tirweddau yr ydym yn eu hadnabod mor dda, bydd darlith Alex yn trafod sut mae ei ddull a'i ymchwil yn arddangos ffordd tuag at ffordd fwy grymusol a democrataidd o benderfynu ar newid tirwedd - un lle gallwn ni i gyd ryngweithio'n briodol â Chymru'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Traddodir y ddarlith hon drwy gyfrwng y Saesneg.