Coastal Echoes: Barddoneg Cydweithio
CAInC Seminar Ymchwil
Bydd Zoë Skoulding, Catrin Menai ac Iestyn Tyne yn trafod eu cyfranogiad fel ymarferwyr celfyddydol yn y project cydweithredol, traws-gelfyddyd Coastal Echoes, a drefnwyd gan ‘Literature Across Frontiers’ yn 2024-2025 yn Kerala, Twrci a Gwlad Groeg.
Sut gall ymarfer creadigol mewn barddoniaeth, ffilm a sain archwilio'r atseinio rhwng cymunedau arfordirol mewn gwahanol rannau o'r byd? Sut mae ymarfer trawsffurfiau celfyddydol yn galluogi croesi ieithoedd a diwylliannau? A all hefyd gynnig ffurfiau o gyfieithu drwy’r hyn y gallwn ni archwilio'r bywydau an-ddynol a'r pethau materol sy'n ein cysylltu? Pa fethodolegau creadigol sydd wedi'u datblygu a pha gydweithrediadau yn y dyfodol a allai ddeillio o'r project?