Creu Clymau Tsieineaidd: Plethu Dymuniadau am Heddwch a Lwc Dda!
Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd!
Ymunwch â’n Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd i archwilio’r ystyr sydd wedi’i blethu i glymau Tsieineaidd traddodiadol! Darganfyddwch sut mae’r creadigaethau addurniadol hyn yn cyfleu dymuniadau am hapusrwydd, heddwch a lwc dda, a chreu eich cofrodd eich hun i fynd adref gyda chi.
Am ddim ac yn agored i bawb, gyda hyd at 10 lle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Rhowch gynnig ar y grefft draddodiadol o greu clymau Tsieineaidd gyda Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor a throi cortyn syml yn addurn ystyrlon wedi’i wneud â llaw.
Darganfyddwch sut mae clymau Tsieineaidd yn cael eu defnyddio mewn dathliadau ac mewn cartrefi i gyfleu dymuniadau da, a dysgwch pam mae coch yn gysylltiedig â hapusrwydd a lwc dda. Dilynwch arddangosiad dan arweiniad i blygu, dolennu a thynhau eich cortyn yn ysgafn i greu cwlwm addurniadol sy’n symbol o heddwch a diogelwch.
Ewch â’ch creadigaeth adref fel cofrodd personol neu anrheg feddylgar.