Croesfannau’r Iwerydd: Darlleniad Barddoniaeth
Don Mee Choi, Forrest Gander a Víctor Rodríguez Núñez, gyda chyfieithiadau gan Katherine M. Hedeen, Johannes Göransson, Grug Muse
Cyflwynir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Am ddim.
Croesfannau’r Iwerydd: Darlleniad Barddoniaeth
Don Mee Choi, Forrest Gander a Víctor Rodríguez Núñez, gyda chyfieithiadau gan Katherine M. Hedeen, Johannes Göransson, Grug Muse
Mae Don Mee Choi yn enedigol o Seoul, De Korea, ac yn awdur y casgliad DMZ Colony (Wave Books, 2020) a enillodd y Wobr Llyfrau Cenedlaethol, Hardly War (Wave Books, 2016), The Morning News Is Exciting (Action Books, 2010), a sawl pamffled o gerddi ac ysgrifau. Mae hi'n gymrawd MacArthur a Guggenheim 2021. Mae hi'n gyfieithydd nodedig o farddoniaeth gyfoes gan feirdd benywaidd Corea.
Bardd, nofelydd, ysgrifydd a chyfieithydd Americanaidd yw Forrest Gander y mae ei gasgliadau barddoniaeth diweddar yn cynnwys Twice Alive (2021). Ymhlith ei wobrau llenyddol niferus mae Gwobr Barddoniaeth Pulitzer 2019, a enillodd am ei gasgliad Be With (2018). Mae ei gerddi yn aml yn defnyddio dirnadaeth o ddaeareg ac yn sôn am dirweddau, y mae'n eu trin fel lleoliad sylfaenol neu ffynhonnell weithredu. Mae wedi cyfieithu barddoniaeth Gozo Yoshimasu, Coral Bracho, Pablo Neruda ac Alfonso D'Aquino ymhlith eraill. Mae'n byw yng Nghaliffornia.
Mae cyfieithiadau diweddaraf Katherine M. Hedeen yn cynnwys Book of the Cold gan Antonio Gamoneda (World Poetry Books), prepoems in postspanish and other poems gan Jorgenrique Adoum (Action Books), a from a red barn gan Víctor Rodríguez Núñez (co•im•press). Mae hi'n Athro Sbaeneg yng Ngholeg Kenyon ac yn Rheolwr-olygydd Action Books. Mwy o wybodaeth: www.katherinemhedeen.com
Mae gan y bardd Ciwbaidd Víctor Rodríguez Núñez dros saith deg o gasgliadau o'i farddoniaeth wedi'u cyhoeddi ledled y byd. Mae wedi derbyn gwobrau sylweddol yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae ei gerddi dethol wedi eu cyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd. Ei lyfr diweddaraf mewn cyfieithiad Saesneg yw from a red barn (co•im•press, 2020) Mae'n rhannu ei amser rhwng Gambier, Ohio, lle mae'n Athro Sbaeneg yng Ngholeg Kenyon, a Havana, Ciwba. Mwy o wybodaeth: www.victorrodrigueznunez.com
Ganed Johannes Göransson yn Sweden ac mae bellach yn byw yn South Bend, Indiana, lle mae'n dysgu ym Mhrifysgol Notre Dame. Mae’n awdur wyth o lyfrau, gan gynnwys POETRY AGAINST ALL, The Sugar Book a Transgressive Circulations: Essays on Translation, a llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi, Summer. Mae'n gyfieithydd nifer o feirdd, gan gynnwys Aase Berg, Ann Jäderlund, Helena Boberg, Kim Yideum ac Eva Kristina Olsson.
Mae Grug Muse (1993) yn fardd ac ysgrifwraig sy’n gweithio’n bennaf trwy’r Gymraeg. Mae hi wedi ysgrifennu i’r Guardian, Poetry Wales, O’r Pedwar Gwynt a Planet. Mae hi’n un o gyd-olygyddion Welsh (Plural) (2022, Repeater), casgliad o ysgrifau sy’n dychmygu Cymreictod neilltuol ond cynhwysol. Cyhoeddwyd ei hail gasgliad o farddoniaeth, merch y llyn, yn 2021. Mae ganddi ddinasyddiaeth Americanaidd a Phrydeinig, ac mae ei gwaith yn archwilio themâu o gwmpas dwyieithrwydd, ecoleg a ffeminyddiaeth.