Cymdeithaseg mewn Cartŵn : sesiwn yn arddangos adnoddau digidol Cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithas
Cymdeithaseg mewn Cartŵn: sesiwn yn arddangos adnoddau digidol Cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg. . Dewch i drafod pwysigrwydd cartwnau, recordiadau a deunydd ar-lein er mwyn eich cynorthwyo chi i astudio Cymdeithaseg drwy'r Gymraeg. Dyma sesiwn sy'n addas i ddisgyblion TGAU a Lefel A a'u hathrawon gan gynnwys myfyrwyr prifysgol.
Mae'n gyfle i drin a thrafod adnoddau digidol arloesol i faes Cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg sef PAAC (Pecyn Adnoddau Aml-gyfrwng Cymdeithaseg) a Deunyddiau Dysgu Digidol, y naill a'r llall wedi'u cyllido gan y CCC. Bydd yna ddarlith, gweithgaredd rhyngweithiol a sesiwn holi ac ymateb er mwyn dysgu mwy am yr adnoddau digidol arloeol.
Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Prifysgol Bangor