Darganfod ein yfory gyda'n gilydd
Rydym yn chwilio am bobl leol i ymuno â ni ar gyfer digwyddiad ymgysylltu cymunedol.
Rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect dros y flwyddyn ddiwethaf sy’n canolbwyntio ar newid hinsawdd, cymunedau arfordirol, a threftadaeth ddiwylliannol. Rydym yn awyddus i glywed gan ein cymunedau lleol ar sut rydych chi'n meddwl am (a diffinio) treftadaeth ddiwylliannol, eich barn a'ch dealltwriaeth o wydnwch ac addasu i'r hinsawdd, a'ch straeon a'ch profiadau ... dywedwch wrthym am eich hanes arfordirol!
Rydym yn ceisio cyd-greu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer ymgysylltu cymunedau amrywiol â gwyddor hinsawdd a’r bygythiad i’n treftadaeth naturiol a diwylliannol yn ein tir a’n morweddau.
Arweinir y prosiect gan Dr Lynda Yorke, a chaiff ei ariannu gan grant gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Cinio Bwffe am ddim.