Dianc a Darganfod Gardd Fotaneg Treborth
Bydd y Tîm Campws Byw yn tywys myfyrwyr o amgylch yr Ardd Fotaneg syfrdanol yn Nhreborth. Dim ond taith gerdded fer o Bentref Ffriddoedd, mae’r ardd fawr a’r coetir yn lle perffaith i ddianc – gan gynnig amgylchedd heddychlon gyda golygfeydd anhygoel dros y Fenai.