Digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid Parc y Coleg
Bydd y contractwyr sy'n arwain ar ddatblygiad Parc y Coleg, yn cynnal sesiwn ymgynghori galw mewn rhwng ar ddydd Mawrth, 1 Awst rhwng 3:00 pm a 7:00 pm yn adeilad Pontio (Lefel 2).
Dyma gyfle i glywed am y cynlluniau arfaethedig ar gyfer y camau nesaf yn natblygiad Parc y Coleg, ynghyd â diweddariad am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ers y digwyddiad ymgysylltu cymunedol diwethaf. Mae byrddau ymgynghori wedi cael eu creu er mwyn tynnu sylw at y prif heriau a’r cyfleoedd i’r parc ac yn esbonio’r syniadau cychwynnol y bwriedir dechrau arnynt ar y safle yn 2024, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.
Galwch heibio unrhyw bryd i weld y wybodaeth ac i holi unrhyw gwestiynau a rhoi adborth.