Eco-alluoedd: archwilio addysgeg ar y groesffordd rhwng byd natur, y celfyddydau a lles
Yr Athro Nicola Walshe
Mae’r rhaglen eco-alluoedd yn broject a ariennir gan yr AHRC ac sy’n ymwneud â thri mater sy’n gorgyffwrdd: pryder â lles plant; eu datgysylltiad ymddangosiadol â'r amgylchedd naturiol; a diffyg ymgysylltu â'r celfyddydau yng nghwricwlwm ysgolion. Mae’n adeiladu ar waith Amartya Sen ar alluoedd dynol fel arwydd o les, gan ddatblygu’r term eco-alluoedd i ddisgrifio sut mae plant yn diffinio’r hyn y maent yn teimlo sydd ei angen arnynt i fyw bywyd dynol da a chyflawn trwy gynaliadwyedd amgylcheddol, cyfiawnder cymdeithasol a lles economaidd yn y dyfodol. Trwy’r rhaglen eco-alluoedd, bu plant o ddwy ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn wyth diwrnod llawn o ymarfer celfyddydau-ym-myd-natur, a ddisgrifir fel celfweddu. Tynnodd yr astudiaeth ar fethodolegau ymchwil seiliedig ar y celfyddydau, arsylwadau’r plant eu hunain, ac ar gyfweliadau a grwpiau ffocws gydag artistiaid, athrawon a phlant. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod elfennau allweddol o arfer celfyddydau-ym-myd-natur yn cyfrannu at ddatblygiad eco-alluoedd plant, yn enwedig sesiynau celfyddyd-ym-myd-natur estynedig ac ailadroddus; ymgorffori ac ennyn diddordeb plant yn affeithiol trwy'r synhwyrau; arafwch sy'n rhoi amser a lle i blant (ail)gysylltu; ac ymarfer meddylgar sy'n hwyluso mynegiant emosiynol. Yn y seminar hon, byddaf yn archwilio sut, trwy’r elfennau hyn, mae ymarfer celfyddydau-ym-myd-natur yn cefnogi lles plant, ac yn eu harwain tuag at berthynas fwy clos â natur a dealltwriaeth gliriach o’u hunain yn rhan ohono, a thrwy hynny eu hysgogi i gymryd gofal gwell ohono.