Darlith Flynyddol yr Archifdy
I ddathlu 150 o flynyddoedd o bêl droed cystadleuol yn ninas Bangor, bydd Darlith Flynyddol yr Archifdy eleni yn cael ei thraddodi gan Dafydd Hughes, cyn ysgrifennydd Clwb Pêl Droed Bangor 1876 FC, lle bydd yn sôn am hanes pêl-droed yn y ddinas.
Mae gan Dafydd, sydd wedi bod yn gefnogwr brwd o Fangor ers blynyddoedd, wybodaeth helaeth am hanes pêl-droed ym Mangor. Bu’n rhan o’r broses o guradu’r arddangosfa hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yn Storiel yn ddiweddar yn cofnodi 150 mlynedd o bêl-droed cystadleuol ym Mangor. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys nifer o eitemau o Archif Pêl-droed Bangor, rhan o gasgliadau’r Archifau a Chasgliadau Arbennig.
Mynediad am ddim.