Gweithdy Ymgysylltu a Datblygu Capasiti i Fusnesau Bach a Chanolig
Ymunwch ag Ysgol Fusnes Albert Gubay, Prifysgol Bangor mewn gweithdy a fydd yn archwilio cyfleoedd busnes yng ngogledd Cymru, entrepreneuriaeth, a dulliau deallusrwydd artiffisial ymarferol a all gefnogi twf a chynhyrchiant.
Bydd sesiwn y bore yn archwilio cyfleoedd rhanbarthol newydd a'u heffaith bosibl ar fusnesau lleol, cadwynau cyflenwi a chymunedau. Yn y prynhawn, bydd busnesau yn rhannu eu profiadau o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial, ac yna bydd sesiwn ymarferol yn cyflwyno offer a all gefnogi arloesedd a gweithgareddau busnes beunyddiol.
Pwy ddylai ddod?
- Perchnogion a rheolwyr busnesau bach a chanolig
- Busnesau newydd a darpar entrepreneuriaid
- Gweithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol hunangyflogedig
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn deallusrwydd artiffisial ac arloesi mewn busnes
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o ddeallusrwydd artiffisial.
Beth sy’n gynwysedig?
- Cael bod yn bresennol ym mhob sesiwn
- Cinio a lluniaeth
- Hyfforddiant ymarferol mewn deallusrwydd artiffisial
- Cyfleoedd i rwydweithio gyda busnesau lleol ac entrepreneuriaid