Gŵyl Gerdd Bangor
Thema: Y Synhwyrau
UPROAR Ensemble | Darragh Morgan & Electroacoustic WALES | SMOUND (Rhodri Davies, Pat Morgan & Angharad Davies) | Camau Cerdd / Steps in Music | Canolfan Gerdd William Mathias Bangor | New Music Ensemble | Bangor Fusion Ensemble
Mae GGB yn gorff elusennol sydd â’i fryd ar gyflwyno cerddoriaeth gyfoes a berfformir gan artistiaid o’r safon uchaf, ac mae gennym ymrwymiad cryf i gyfoethogi ac addysgu’r gymuned yng Ngogledd Cymru trwy weithdai a chyngherddau. Rydym yn gweld cerddoriaeth fel ffurf fyw a ffyniannus ar gelfyddyd, ac mae ein gŵyl yn adlewyrchiad ar ein brwdfrydedd dros gerddoriaeth newydd. Mae’r Ŵyl yn rhoi ysbrydoliaeth, hwb ac yn fwy na dim, cefnogaeth i gerddorion cyfoes o bob oedran ar draws y Deyrnas Unedig. Trwy gefnogaeth hael a pharhaus y gymuned, rydym wedi llwyddo i gynnal gwyliau er 2000.
Gellir archebu tocynnau ar wefan Pontio
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer pob digwyddiad ar gael yma