Mae eich iechyd, diogelwch a lles o'r pwys mwyaf i ni. Fel rhan o'n hymrwymiad i gynnal amgylchedd diogel ac iach, mae'n ofynnol i bob myfyriwr gwblhau'r Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
Mae'r deunyddiau hyfforddiant yn darparu gwybodaeth hanfodol am y mesurau sydd ar waith i’ch diogelu ar y campws. Darllenwch yn ofalus drwy ddilyn y ddolen isod:
Deunydd hyfforddiant iechyd a diogelwch
Ar ôl i chi adolygu’r cynnwys, rhaid i chi gwblhau’r Ffurflen Datganiad Iechyd a Diogelwch i gadarnhau eich bod wedi deall y wybodaeth.
🔒 Noder: I gwblhau'r ffurflen, rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i Microsoft gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol Bangor. Cynhyrchir eich cyfeiriad e-bost yn awtomatig ac mae'n dilyn y fformat: enw defnyddiwr@bangor.ac.uk (e.e., xyz22def@bangor.ac.uk).