Pobl ac Adar - Darlith Gyhoeddus
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor a Grŵp Adar Bangor gynnig darlith gyhoeddus am ddim gan yr Athro Tim Birkhead FRS, ar ddydd Mercher, 1 Mawrth yn Pontio. Bydd y drysau yn agor am 6.00yh a'r ddarlith yn cychwyn am 6.30yh.
Mae'r ddarlith ynglŷn â'r rhyngweithio rhwng pobl ag adar dros 12,000 o flynyddoedd o hanes cofnodedig; gan gynnwys mymïau Ibisiaid yr Aifft, arbrofi gwyddonol, peirianneg ddynwaredol ac ysbrydoliaeth artistig, yn ogystal â phryder am eu cadwraeth a'u lles.
Mae’r Athro Tim Birkhead yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Athro Emeritws Ecoleg Ymddygiadol, Prifysgol Sheffield, Ysgol y Biowyddorau
Ail-luniodd ei ymchwil ar amlgymharaeth a chystadleuaeth dros sberm mewn adar ein dealltwriaeth o systemau paru’r adar. Ymrwymodd Tim i ddealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth ac ysgrifennodd nifer o lyfrau gwyddoniaeth poblogaidd, gan gynnwys Promiscuity (2000), The Wisdom of Birds (2008), Bird Sense (2012) The Most Perfect Thing: the Inside (and Outside) of a Birds’ Egg (2016), What it’s Like to be a Bird (2021) and Birds and Us (2022). Enillodd ei lyfr plant, What it’s like to be a Bird (2022) gyda darluniau gan Catherine Rayner, Wobr Margaret Mallett Cymdeithas Lloegr fis Mai 2022.
Yn ogystal â’i rôl fel ymchwilydd ac athro bu’n hyrwyddo syniadau esblygiadol, trwy sgyrsiau i’r cyhoedd, ac erthyglau ar y cyfryngau, ac ar y teledu. Mae ei sgwrs TED wedi cael ei gwylio dros 100,000 o weithiau.
Mae Tim wedi ymddangos ar The Life Scientific (Radio 4) a The Infinite Monkey Cage (Radio 4), cyfeiriodd Syr David Attenborough at lyfr Tim The Most Perfect Thing (yng nghylchgrawn BBC-Wildlife fel 'Magnificent'). Yn 2018 aeth Attenborough a Birkhead rhagddynt i wneud rhaglen ddogfen gan y BBC: Roedd y sgript yn gyfan gwbl o'r llyfr. Ymddangosodd Tim hefyd ar BBC Radio 4 Start the Week (ynghylch cyhoeddi Birds and Us (Penguin/Viking 2022), a BBC Radio 3’s Private Passions (a ddarlledwyd ar 17 Ebrill 2022), ac ar 'Supernature' Lauren Laverene (BBC6 Music ar 5 Rhagfyr 2022). Mae'n briod gyda thri o blant a chi, ac yn ei amser hamdden mae'n peintio ac yn chwarae'r gitâr.
Y prif feysydd o ddiddordeb presennol:
- Dethol Rhywiol mewn Adar
- Bioleg Poblogaethau Adar
- Hanes Gwyddor Atgenhedlol ac Adaregol
- Awdur llyfrau adaryddol poblogaidd: rhestr ddethol-
- The Red Canary (2004)
- The Wisdom of Birds (2008) (Enillydd “Llyfr Adar Gorau 2009” - BTO & British Birds)
- Ten Thousand Birds (2011)
- Bird Sense (2008) (Enillydd “Llyfr Adar Gorau 2009” - BTO & British Birds)
- (2016) (Enillydd “Gwobr cyfleu sŵoleg ZSL 2017”)
- What it is like to be a Bird (2021)
- Birds and Us: A 12,000 Year History (2022)
Cyfraniadau dethol ar y cyfryngau:
- Ysgrifennodd erthyglau ar gyfer The Guardian, The Biologist, Independent, ac ymddangosodd ar The Life Scientific a The Infinite Monkey Cage a thraddododd ddarlith TED, ymhlith llawer o gyflwyniadau eraill.
Gwobrau Dethol:
- Medal McColvin am y llyfr cyfeirio gorau: Cambridge Encyclopedia of Ornithology, 1991
- Ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), 2004
- Ei ethol yn Aelod er Anrhydedd o Gymdeithas Linnaean, 2011
- Medal Elliot Coues, Undeb Adaregwyr America, 2011
- Medal y Gymdeithas er Astudio Ymddygiad Anifeiliaid, 2012
- Athro Biowyddoniaeth y Flwyddyn, Cymdeithas Fioleg, 2013
- Y Fedal Arian, Cymdeithas Sŵolegol Llundain, 2014
- Medal Eisenmann, Cymdeithas Linnaean Efrog Newydd, 2016
- Medal Godman-Salvin, Undeb Adaregwyr Prydain, 2016
- Gwobr Stephen Jay Gould, am gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o fioleg esblygiadol, 2017