Dydd Sadwrn 30/07/2022

Mae’r project hwn, rhwng Clwb Ifor Bach a’r Eisteddfod Genedlaethol, yn annog merched i gyfansoddi a pherfformio.
Yn ddiweddar trefnwyd dau gwrs preswyl yng Nglan-llyn Isa' gydag Urdd Gobaith Cymru a arweiniodd at nifer o gerddorion ifanc yn sefydlu eu bandiau eu hunain neu'n perfformio fel unigolion.

Lelog
Tair o ferched ifanc o ardal Y Bala ydy Lelog, sydd yn byrlymu ag egni a brwdfrydedd am gerddoriaeth, a ddaeth i’r amlwg ar ôl ffurfio ar gwrs Merched yn Gwneud Miwsig yng Nglan-llyn Isa’ fis Chwefror 2022

Alis Glyn
Mae Alis yn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon ac mae yn ei helfen yn cyfansoddi a pherfformio ei gwaith.
Eisoes eleni mae wedi perfformio yng Ngwyl Fwyd Caernarfon, Eisteddfod yr Urdd ac yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Dydd Llun 1/08/2022

Trefnir y sgwrs hon gan Dr Catrin Hedd Jones a bydd yn gyfle i drafod adnoddau a all fod o gymorth; ymgyrch Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i greu eglwysi sy'n deall dementia; a thrafodaeth am y gyfrol Datod (Gwasg y Lolfa) gyda Beti George.

Cyfle i weld eu ffilm arobryn, The Welshman, ac i ofyn cwestiynau am y ffilm.
Hanes dyn ifanc angerddol ydyw sy’n teimlo’n rhwystredig oherwydd y bwriad i adeiladu cronfa ddŵr i wasanaethu diwydiant Glannau Merswy, nes o'r diwedd iddo benderfynu gweithredu wrth i'r gwaith adeiladu fygwth y gymuned fynyddig fechan.

Mae’r awdur a’r dramodydd, a'r Darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, Dr Gareth Evans-Jones, yn eich gwahodd i archwilio Cymru drwy luniau a llenyddiaeth.

Bydd Dr Evans-Jones yn rhannu ei gyhoeddiad diweddaraf, Cylchu Cymru (Gwasg y Lolfa, 2022), sef cyfrol o straeon byrion yn ymateb i deithiau cerdded ar hyd arfordir Cymru a Chlawdd Offa.

Ymunwch ag ef i adfyfyrio ar y cyfleoedd iechyd a lles sydd ar gael yng nghefn gwald godidog Cymru.

Dydd Mawrth 2/08/2022

Mae Cyfres Podlediadau Ysgol y Gwyddorau Addysgol - Am Blant - yn trafod gwahanol agweddau ar fywydau plant a phobl ifanc yn 2022.
Ymunwch â ni fel rhan o’r gynulleidfa ar gyfer sesiwn holi yn y recordiad byw hwn o bodlediad olaf y gyfres.

gyda…
Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin.
Carys Edwards, Cyn Bennaeth Drama, Cyfarwyddwr Creadigol a Chynhyrchydd
Elen ap Robert, Cyn Gyfarwyddwr Creadigol Galeri a Pontio, Therapydd Cerdd ac aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dr Mair Edwards, Seicolegydd Clinigol
Cadeirydd:
Dr Nia Young, Darlithydd, Ysgol Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Bangor.

Mae'r Labordy Dwyieithrwydd Plant yn ymchwilio i sgiliau meddwl a datblygiad iaith plant dwyieithog.

Dewch i glywed am ein hymchwil arloesol – a chymryd rhan mewn tasgau ac arbrofion!

Dydd Mercher 03/07/2022

Sgwrs a gweithgaredd grŵp yn adfyfyrio ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ymarferwyr creadigol yng Nghymru heddiw.

gyda…
Manon Awst, artist a chydlynydd mannau cyhoeddus Pontio
Rebecca Hardy-Griffiths, artist a churadur Y Lle Celf 2022
Owen Griffiths, artist ymarfer cymdeithasol yn gweithio gyda chymunedau
Dylan Huw, awdur a churadur

Cwis llenyddol rhwng adrannau'r Gymraeg prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.
Cwisfeistr:
Y Prifardd Rhys Iorwerth.

Lansio Ysgrifau ar Lenyddiaeth a Hanes Powys gan Enid Pierce Roberts (Gwasg y Bwthyn) gyda'r Athro Gruffydd Aled Williams.
Dathlu cyhoeddi casgliad o ysgrifau gan un o gyn-ddarlithwyr Adran y Gymraeg.

Mae Aduniad Cyn-fyfyrwyr Bangor yn ei ôl - mae llawer i sgwrsio amdano ers y tro diwethaf i ni gyfarfod â’n gilydd.

Dewch i glywed am ddatblygiadau’r brifysgol dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac i gwrdd â’ch cyd-gyn-fyfyrwyr dros luniaeth ysgafn.

Cyflwynwyd gan Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Iwan Davies, a Llywydd UMCB, Celt John. Wedi’i ddilyn gan berfformiad gan Aelwyd JMJ

Dydd Iau 04/08/2022

Ymunwch â’r Darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, Dr Gareth Evans-Jones a Dr Joshua Andrews, Darlithydd Moeseg a Chrefydd, a fydd yn rhannu eu hymchwil ac yn agor trafodaeth ar aml-grefyddau Cymru a pha mor amlddiwylliannol ydyn ni mewn gwirionedd yn 2022.

Gwilym Owen, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yn trafod y ffyrdd y mae modd gweld dylanwad Harri VIII ar batrymau priodasol uchelwr o ogledd Cymru.


Yng nghwmni ei gyd-ddarlithwyr Tasha Roberts a Lois Nash.


Bydd y sgwrs yn dechrau gyda pherfformiad 15 munud gan Gwyn Owen, sy’n drwmpedwr gyda Band Pres Llareggub – sydd hefyd yn digwydd bod yn fab i Gwilym!

Ymunwch â’r panel wrth iddynt drafod y cyfleoedd a’r rhwystrau yn y Gymru wledig ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd.

Pryderi Ap Rhisiart, Cyfarwyddwr M-SParc sy'n cadeirio'r hyn sy'n argoeli i fod yn ddadl ddiddorol.

⁠gyda…

Huw Watkins  - Prif Weithredwr Bic Innovations
Andrew Edwards - Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg a Chenhadaeth Ddinesig, Prifysgol Bangor
Ieuan Wyn Jones - Cadeirydd, M-Sparc
Dr Edward Jones - Ysgol Busnes Bangor,
Nia Roberts - Cyfarwyddwraig M-SParc

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 100 Mlynedd o Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Prynhawn o drafod cerddoriaeth ac o adloniant a pherfformiadau i ddathlu’r achlysur gan rai o’n graddedigion enwocaf.

Rydym ar ben ein digon yn cael cwmni Gwenan Gibbard, a raddiodd o Brifysgol Bangor.

Mae Gwenan yn delynores a chantores amlwg ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, ac mae wedi perfformio mewn nifer o wyliau enwog yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Mae wedi ennill nifer o gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae ei dull arloesol o ymdrin â Cherdd Dant wedi cael ei glywed mewn cyngherddau a gwyliau ledled y byd.
Ynghyd â’i gwaith unigol, mae Gwenan newydd ryddhau albwm newydd fel aelod o’r grŵp gwerin ‘Pedair’.

Trafodaeth gyda’r hyfforddwraig a’r cerddor a’r Cymrawd er Anrhydedd, Menai Williams.

Mae Menai Williams yn gyn-fyfyrwraig ac yn gymrawd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’n un o feirniaid, tiwtoriaid a chyfansoddwyr cerdd mwyaf blaenllaw Cymru, ac wedi bod yn delynores ac yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros 40 mlynedd.

Cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a phawb…ymunwch â ni i nodi’r achlysur arbennig hwn gyda chacen a lluniaeth i ddathlu!

Trafodaeth banel ar Wasanaeth Cerddoriaeth Newydd Llywodraeth Cymru, a cherddoriaeth o fewn ac oddi allan i'r cwricwlwm newydd.

⁠gyda…
Mari Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
Aled Maddock, Arweinydd/Pennaeth Cynorthwyol Adran Gerdd, Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, Meinir Llwyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias

Cyfle unigryw i glywed set acwstig gan Osian, canwr a gitarydd amryddawn Candelas,
a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor sydd eisoes wedi gwneud cyfraniad enfawr i
gerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru.

Dydd Gwener 05/08/2022

Gwahoddiad i ymdawelu ac i gymryd hoe gyda Gwenan Roberts, athrawes ymwybyddiaeth ofalgar a raddiodd gydag MA o Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Prifysgol Bangor.

Ymunwch mewn myfyrdod dan arweiniad, ac yn dilyn hynny bydd Gwenan yn eich gwahodd i gymryd hoe ac yn rhannu rhywfaint o farddoniaeth i gyd-fynd â'r sesiwn.
Mae Gwenan yn athrawes Ymwybyddiaeth Ofalgar brofiadol, ac mae wedi cynnal cyrsiau ar gyfer sefydliadau megis yr Heddlu a Llywodraeth Cymru, ac i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol ychwanegol.

Trafodaeth fywiog gyda pherfformwyr sydd a'u bys ar byls a bywyd ysgol hefyd. Dewch i wrando ar ein myfywyr a'n cyn-fyfyrwyr yn trafod pleserau a heriau y ddau fyd! 

Rhian-Mair Jones (Cadeirydd) 

John Ieuan Jones (canwr Opera)
Marged Rhys (Plu)
Gwen Elin (Cantores)
Lora Lewis (Perfformwraig)

Meddwl dod fel myfyriwr i Brifysgol Bangor?
Wel, dewch i ddathlu'r
Eisteddfod gyda ni yn ein Prynhawn Prosecco!
Cyfle i sgwrsio a chlywed gan fyfyrwyr presennol UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor)
dros wydraid o prosecco.
Gan gynnwys perfformiad gwych gan Fand Pres Llareggub... welwn ni chi yno!

Dydd Sadwrn 6/08/2022

Bydd Canolfan Celfyddydau a Diwylliant Prifysgol Bangor,
ynghyd â'n rhaglen allgymorth gelfyddydol a chyfranogol, BLAS, yn dod â Chaffi Babis i'r Eisteddfod.
Ymunwch â Siwan Llynor ac Angharad Harrop yn yr hyn sy’n argoeli i fod yn sesiwn artistig, greadigol a hwyliog sy’n addas i fabanod hyd at 24 mis.

**Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn cyn 10:30am fore Gwener.
Cynhwysedd 15 o fabanod gydag 1 rhiant yr un

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?