Gall trallwysiad gwaed achub bywyd, ond dim ond os yw'r gwaed cywir yn cyrraedd y claf cywir.
Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno gwyddoniaeth grwpiau gwaed, cydnawsedd a diogelwch trallwyso drwy'r mathau o benderfyniadau a wneir mewn labordai ysbytai bob dydd.
Bydd myfyrwyr yn archwilio pam na ellir rhoi gwaed i unrhyw un ar hap, pam mae gwaed O negatif mor werthfawr, a sut mae gwyddonwyr biofeddygol yn helpu i atal adweithiau trallwyso peryglus wrth reoli cyflenwad cyfyngedig a gwerthfawr o waed.
Cyflwynir y weminar hon drwy gyfrwng y Saesneg.
Siaradwr
Dr Dylan Jones
Darlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol (Haematoleg / Ffisioleg Ddynol)