Sesiwn Jamio: Cread y Byd
Cyfle i gerddorion jamio gydag Ensemble Cymru
Yn dathlu Cerddoriaeth100 Prifysgol Bangor
Dyma wahoddiad i chi gan Ensemble Cymru - ensembl cerddoriaeth siambr arweiniol Cymru - i gymryd rhan mewn sesiwn jamio unigryw. O dan baton Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Gwyn L Williams, rydym wedi gosod y sialens i berfformio Creadigaeth y Byd gan y cyfansoddwr Ffrengig, Darius Milhaud…o fewn 3 awr yn unig!
Mae Creadigaeth y Byd yn bale hyd 15 munud. Cafodd ei gyfansoddi yn 1922. Dyma’r un amser y cafodd Cyfarwyddwr Cerdd gyntaf Prifysgol Bangor ei apwyntio. 100 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn gwahodd cerddorion ar draws Cymru i ymuno â ni wrth i ni ddathlu’r garreg-filltir hon yn hanes creu cerddoriaeth ym Mangor ac i gerddoriaeth yng Nghymru.
Darn byr, llawer o rythmau jazz gyda naws y ‘blues’ sy’n llawer o hwyl i chwarae, a oes diddordeb?
Rydym yn chwilio am y cerddorion canlynol (cyfartal i safon Gradd 5 da neu yn uwch) i ymuno â ni.
Ffliwt
Obo
Clarinét
Basŵn
Sacsoffon Alto
Corn Ffrengig
Trymped
Trombôn
Piano
Timpani
Offerynnau Taro
Feiolín
Sielo
Bas Dwbl
Beth sydd angen ichi wybod:
Mae angen i chi fod ar gael o 11:45 hyd at 15:15, dydd Sadwrn 12 Mawrth 2022, yn Cegin ar lawr cyntaf Pontio.
Rydym yn chwilio am gerddorion sydd yn gyfartal a gradd 5 da neu yn uwch.
Rydym yn croesawu cerddorion o unrhyw oedran o 12 oed ac yn uwch. Bydd yn ofynnol i riant / gwarcheidwad fod yn bresennol o hyd ar gyfer plant oed 12-15.
Mae niferoedd yn gyfyngedig felly ymgeisiwch cyn gynted ag y bo modd.
Rydym yn gofyn i bawb baratoi gartref ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu paratoi 1 neu fwy o adrannau byr o Creation du Monde gan Milhaud, a lle bo modd, ei wylio / chwarae gyda recordiadau ar Youtube.
Er mwyn cadw pawb yn ddiogel ar y diwrnod, byddwn ni’n gofyn i bawb wisgo gorchudd wyneb a chadw at bellter cymdeithasol pan nad ydych chi’n chwarae.
Byddwn ni’n tynnu lluniau, ffilmio’r digwyddiad ac yn eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol a’r safle we (os nad ydych chi am gael eich ffilmio neu am i’ch plentyn gael ei ffilmio, rhowch wybod cyn gynted ag y bo modd os gwelwch yn dda).
Cydnabyddiaeth
Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones ac i gefnogwyr hael Ensemble Cymru am wneud i’r digwyddiad hwn yn bosib.