Mae'r sesiynau hyn wedi eu hanelu at....
- Unrhyw un sy'n astudio Lefel A neu AS y Gyfraith
- Unrhyw un sy'n astudio CBAC
Mae’r sesiynau hyn ar agor i unrhyw un sy’n 16 oed neu hŷn.
Beth i'w ddisgwyl?
Ym mhob sesiwn, byddwch yn:
- Trafod pynciau craidd yng nghwricwlwm Lefel A y Gyfraith
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a thrafodaethau grŵp
- Datblygu dealltwriaeth gryfach o egwyddorion cyfreithiol allweddol
- Cael canllawiau ar dechnegau adolygu a pharatoi at arholiadau
Caiff y sesiynau eu harwain gan Lois Nash a Natasha Hooker, darlithwyr y gyfraith, a fydd yn eich cefnogi trwy gydol y sesiwn ac yn ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych.
Manylion y Sesiwn
Sesiwn 1: Uned 1 Natur y Gyfraith a Systemau Cyfreithiol Cymru a Lloegr
Pryd? 1-3yh, dydd Gwener 15 Mai 2026
I baratoi at yr arholiad ysgrifenedig, byddwn yn trafod sut i ateb cwestiynau, ac yn adolygu cynlluniau marcio a chwestiynau enghreifftiol sy'n ymwneud â llunio cyfreithiau yng Nghymru a Lloegr a natur y gyfraith.
Sesiwn 2: Uned 2 Cyfraith Camwedd
Pryd? 1-3yh, dydd Mercher 20 Mai 2026
I baratoi at yr arholiad ysgrifenedig, byddwn yn trafod sut i ateb cwestiynau, ac yn adolygu cynlluniau marcio a chwestiynau enghreifftiol sy'n ymwneud â chyfraith camwedd, gan gynnwys cymysgedd o gwestiynau atebion byr a chwestiynau traethawd, gan gynnwys cwestiwn yn seiliedig ar senario.
Sesiwn 3: Uned 3 Ymarfer Cyfraith Sylwedd
Pryd? 1-3yh, dydd Mercher 27 Mai 2026
I baratoi at yr arholiad ysgrifenedig, byddwn yn trafod sut i ateb cwestiynau ar sail senario, ac yn adolygu cynlluniau marcio a chwestiynau enghreifftiol sy'n ymwneud â chyfraith hawliau dynol, cyfraith contractau a chyfraith trosedd.
Sesiwn 4: Uned 4 Safbwyntiau Cyfraith Sylwedd
Pryd? 1-3yh, dydd Mercher 3 Mehefin 2026
I baratoi at yr arholiad ysgrifenedig, byddwn yn trafod sut i ateb cwestiynau traethawd, ac yn adolygu cynlluniau marcio a chwestiynau enghreifftiol sy'n ymwneud â chyfraith hawliau dynol, cyfraith contractau a chyfraith trosedd.
Sut i gofrestru:
I archebu eich lle, llenwch y ffurflen gofrestru.
Sylwer: Cynhelir y sesiynau hyn yn amodol ar isafswm niferoedd (o leiaf 5 y sesiwn).
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu aildrefnu'r sesiynau.