Tales, Trials and Environmental Justice - Accessing Law through Storytelling
Dau ddigwyddiad adrodd straeon ‘o amgylch y tân’ a gynhelir yn y cnawd a’u ffrydio ar-lein (drwy Zoom) lle bydd y storïwr proffesiynol Milly Jackdaw a minnau, yn gweithio’n rhyngweithiol gyda chyfranogwyr ac aelodau’r gynulleidfa i adrodd straeon am hanes a llên gwerin Cymru, er mwyn cyfathrebu ac adnabod rhai o egwyddorion y gyfraith yn ein 'llên'. Yn benodol bydd ffocws y straeon ar gyfiawnder amgylcheddol, megis 'Rhyfel y Sais Bach' gan Eirion Jones sy’n trafod hawliau tir comin a stiwardiaeth, a straeon sy’n ymwneud â newid hinsawdd a'r amgylchedd, wedi'u dethol o'r Mabinogion.
Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau sylfaenol adrodd straeon, yn ogystal ag i feysydd cyfreithiol sy’n ymwneud â’r amgylchedd (gan ganolbwyntio’n benodol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015). Byddant hefyd yn meddwl am ddefnyddioldeb adrodd straeon fel dull o roi mynediad i’r gyfraith.
Mae Tales, Trials and Environmental Justice yn rhan o gyfres ryngddisgyblaethol, traws-ymarfer ehangach o gydweithrediadau ac ymyriadau ymchwil o’r enw Telling Law, sy’n ceisio deall sut mae’r gyfraith yn cael ei thrin mewn straeon, tra hefyd yn ysgogi’r defnydd o adrodd straeon mewn addysg, ymchwil a darpariaeth gyfreithiol, ac ymarfer artistig, er mwyn meithrin llythrennedd cyfreithiol a hyrwyddo mynediad at gyfiawnder.
Dr Lucy Finchett-Maddock o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor