Trosolwg
Mae’r gweithdy hwn yn cael ei arwain gan yr Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant
Mae’r gweithdy yn rhan o’n rhaglen addysgu ôl-raddedig ym maes iechyd ataliol, iechyd y boblogaeth ac arweinyddiaeth. yn benodol, mae’r gweithdy hwn yn gysylltiediad a’r modiwl: ILA-4007 Tegwch Iechyd a Hawliau Dynol
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.
Budd o fynychu
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i brif gysyniadau tegwch iechyd a hawliau dynol.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae’r gweithdy am ddim ac yn agored i bawb, a bydd y gweithdy o ddiddordeb penodol i unigolion a sefydliadau sy’n ymroddedig i wella gofal iechyd a chanlyniadau cymunedol, gan gynnwys staff yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector dai, e.e.
- Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol: meddygon, nyrsys, ymarferwyr meddygol, a staff cymorth.
- Gweithwyr Cymdeithasol: Y sawl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol.
- Gweithwyr Tai Proffesiynol: Unigolion sy'n ymwneud â chymdeithasau tai a pholisïau.
- Darpar Arweinwyr: Unigolion sy'n anelu at rolau arweinyddol o fewn eu sectorau priodol.
Tiwtors
Dr Carys Stringer, Lecturer, Prifysgol Bangor

Ar ôl gwneud BSc. mewn Economeg ym Mhrifysgol Warwick, aeth Dr Carys Stringer ati i wneud PhD mewn Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio i sut y cymhwysir y dull gallu mewn ymchwil sy'n cynnwys gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia. Arhosodd Carys ym Mhrifysgol Bangor fel Cymrawd Ymchwil, gan weithio ar werthusiadau economaidd sawl astudiaeth yn ymwneud â’i phrif ddiddordebau ymchwil sef dementia, heneiddio, gofalwyr ac iechyd y cyhoedd. Roedd yr astudiaethau hyn yn cynnwys cymysgedd o ymyriadau seicogymdeithasol ac ymyriadau darpariaeth gwasanaethau, gan rychwantu’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Mae Carys wedi cyfrannu at ddenu gwerth £1.3 miliwn o grantiau, gan gynnwys gwneud hynny fel Prif Ymchwilydd Cymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i archwilio economeg a gwerth cymdeithasol gwasanaethau cefnogi’r trydydd sector i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia a chyflyrau gwybyddol eraill yng Nghymru (2017-21), ac astudiaeth yn gwerthuso effaith rhaglen y Ganolfan Iechyd i hybu gweithgarwch corfforol ymhlith pobl â chyflyrau cronig (2016-19).
Ymunodd Dr Carys Stringer ag AHEPW fel Darlithydd mewn Iechyd Ataliol yn 2021.
Amanda Davies, Pennaeth yr Economi Sylfaenol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Dechreuodd Amanda ei gyrfa nyrsio yn y GIG ym 1992. Bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd ar y rheng flaen fel nyrs gofal critigol yng Nghymru a Lloegr a hefyd o fewn gofal sylfaenol fel Ymwelydd Iechyd yn cefnogi teuluoedd mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.
Mae Iechyd y Boblogaeth a gofal iechyd ataliol yn rhywbeth y mae’n poeni’n angerddol amdano. Ar ôl hynny symudodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yno daeth yn arweinydd ymgysylltu a gweithiodd fel rhan o dîm sydd wedi ennill sawl gwobr, a chydnabyddiaeth ryngwladol am ei ddull arloesol o ailddefnyddio dodrefn swyddfa.
Yn 2019, symudodd Amanda i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn ystod ei chyfnod yno sefydlodd Fferm Amaethyddol â Chymorth Cymunedol (CSA) yn Ysbyty Treforys a hefyd y fenter Tlodi Gwelyau.
Eleni, enwodd Sophie Howe, y Comisiynydd WFG sy'n gadael, Amanda yn un o 100 o Wneuthurwyr Newid Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Ym mis Ebrill 2023 dechreuodd Amanda secondiad 2 flynedd gyda Llywodraeth Cymru fel Pennaeth yr Economi Sylfaenol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei rôl yw gweithio gyda Byrddau Iechyd a darparwyr Gofal Cymdeithasol ledled Cymru a chefnogi sut y gall eu rôl ddylanwadu’n gadarnhaol ar yr amodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i gefnogi pobl a chymunedau iach a ffyniannus.
Dr Chris Subbe, Betsi Cadwaladr Bwrdd Iechyd y Brifysgol

Clinigwr yw Dr Chris Subbe sy’n gweithio ym maes Meddygaeth Acíwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Astudiodd yn yr Almaen, lle cwblhaodd MD hefyd mewn Pathoffisioleg Resbiradol. Hyfforddodd Dr Subbe yng Nghymru, Lloegr a’r Almaen ac ategodd yr hyfforddiant hynny gyda gwaith i Médecins Sans Frontières yn Angola a chymrodoriaethau yn Ffrainc a’r Unol Daleithiau. Cyhoeddodd grŵp Chris y papur cyntaf a adolygwyd gan gymheiriaid ar Sgoriau Rhybudd Cynnar a’i ddiddordeb ymchwil yw diogelwch y claf sy’n dirywio. Cwblhaodd Dr Subbe Gymrodoriaeth Gwyddoniaeth Gwella gyda’r Sefydliad Iechyd i archwilio’r cyfraniadau y gall cleifion eu gwneud i’w diogelwch eu hunain, ac mae’n cynnal cynhadledd flynyddol “Cleifion Wrth y Llyw”.
Archebwch Nawr
Contact: ahepw@bangor.ac.uk
Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
Mwy o Wybodaeth
Bydd y cyfranogwyr yn gallu prynu'r sleidiau cyflwyno a Thystysgrif Presenoldeb yn dilyn y digwyddiad.