Textiles as Exploitation: Clothing, Commerce & Control on the Penrhyn Jamaica Plantations
Seminar Ymchwil
Ar gyfer y Seminar Ymchwil hwn, bydd Dr Marian Gwyn, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ISWE, yn ymuno â ni i rannu cyflwyniad o'r enw 'Textiles as Exploitation: Clothing, Commerce & Control on the Penrhyn Jamaica Plantations'.
Mae croeso i fynychwyr ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor, ac nid oes angen cofrestru ar gyfer hynny. Os hoffech ymuno'n ar-lein drwy Teams, yna cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen a ddarperir. Cyflwyniad trwy gyfrwng y Saesneg bydd hon.
Mae Dr Marian Gwyn yn gweithio ym meysydd ymchwil hanesyddol a dehongli treftadaeth. Datblygodd enw da’n rhyngwladol am ei gwaith ymgynghorol ym maes treftadaeth. Mae ei meysydd arbenigol yn ymwneud â Hanes Pobl Dduon yng Nghymru, hanes a gwaddol caethwasiaeth drawsiwerydd (yn enwedig gan eu bod yn ymwneud â chyflwyniad y safleoedd treftadaeth) a hanes ystad y Penrhyn. Bu’n rheoli portffolio trawiadol o brojectau a mentrau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a ariennir gan grantiau, gan gynnwys projectau diweddar a mentrau datblygu’r sector i Lywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar gynhwysedd, amrywiaeth a chysylltiadau trefedigaethol.
Marian oedd Swyddog Treftadaeth ein project Tu Hwnt i'r Chwarel, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a hwylusodd ymweliad Uchel Gomisiynydd Jamaica ag Archifau Prifysgol Bangor a Chastell Penrhyn yn 2018. Ar hyn o bryd mae hi’n paratoi llyfr sy’n seiliedig ar Bapurau Jamaica yn archif ystad y Penrhyn.