Venom at the Interface Between Snakes and Environment
Professor Wolfgang Wüster Inaugural lecture, Professor in Zoology (Herpetology)
Mae brathiad neidr yn gyflwr sy'n lladd tua 100,000 o bobl bob blwyddyn, ac yn anafu llawer mwy. Her allweddol i’r ymgais i wella’r driniaeth o frathiad neidr yw amrywioldeb eithriadol cyfansoddiad fenwm neidr. Yn y ddarlith hon, rwy’n edrych ar y ffactorau a’r mecanweithiau sydd wrth wraidd yr amrywiad hwn, sut y gallwn wella ein dealltwriaeth o fioleg fenwm, a’r goblygiadau ar gyfer trin brathiadau nadroedd yn y dyfodol.
Bydd bwffe yn cael ei weini ar ôl y ddarlith er mwyn i bawb fod yn bresennol.