Ymgysylltu — Inner and outer-space: nuclear batteries and space reactors
"Inner and outer-space: nuclear batteries and space reactors"
Ymgysylltu — darlithoedd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadura a dylunio
Ymgysylltu – cyfres o ddarlithoedd am amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â Pheirianneg, Cyfrifiadura a Dylunio, a drefnir gan Gangen Myfyrwyr Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronig ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor.
Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 25 Hydref am 12pm ym mhrif ddarlithfa Stryd y Deon pan gynhelir darlith arbennig gan Michael Rushton ar y testun "Inner and outer-space: nuclear batteries and space reactors"
Caiff pŵer niwclear ei gysylltu fel arfer â gorsafoedd pŵer sy'n darparu llawer iawn o drydan i’r grid cenedlaethol. Yn y sgwrs hon byddaf yn esbonio sut mae technoleg niwclear yn llawer mwy hyblyg na hynny ac yn gallu darparu ffynhonnell symudol o bŵer dros gyfnod hir iawn, a hynny at nifer fawr o wahanol ddibenion. Mae'r dibenion hynny’n amrywio o ddyfeisiau meddygol mewnblanadwy, i chwiliedyddion a anfonir i ddyfnder y gofod a hyd yn oed ganolfannau ar y lleuad.
Byddaf yn cyflwyno generaduron thermol radio niwclear a sut maen nhw'n gweithio, a byddaf yn disgrifio’r defnydd a wnaed ohonynt yn rheoliaduron calon atomig y 1970au. Roedd rhai o'r dyfeisiau hyn yn gallu cynnal curiad calon cleifion am ddegawdau lawer gyda phrin ddim ymyrryd, gan ddangos hirhoedledd llawer hwy nag oedd gan fatris cemegol yr oes. Defnyddiwyd dyfeisiau tebyg hefyd i bweru bwiau allan yn y môr ac maent yn parhau i ganiatáu i chwiliedyddion gofod deithio y tu hwnt i gysawd yr haul. Disgrifir y pethau hyn ochr yn ochr â sôn am y rhagolygon ar gyfer dyfeisiau'r dyfodol.
Mae generaduron thermol radio yn dibynnu ar y gwres a gynhyrchir trwy ddadfeiliad ymbelydrol. Os oes angen mwy o bŵer, gellir defnyddio adweithyddion bychain ymholltiad niwclear. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor i ddatblygu tanwyddau niwclear y gellir eu defnyddio mewn adweithyddion bach i ddarparu gyriant yn y gofod ac i bweru'r canolfannau y byddai eu hangen er mwyn teithio i'r Lleuad ac i'r blaned Mawrth yn y dyfodol. Disgrifir galluoedd y ffynonellau pŵer hyn a sut mae ymdrechion Prifysgol Bangor yn cyfrannu at y gwaith.
Mae Dr Michael J.D. Rushton yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, a chyn hynny bu’n ymwneud â Chanolfan Peirianneg Niwclear Coleg Imperial Llundain. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeunyddiau ynni, yn enwedig deunyddiau niwclear, gydag arbenigedd mewn datblygu modelau atomig manwl ar gyfer ocsidau actinid ar draws amrediad mawr o dymereddau. Gan ddefnyddio dulliau megis dynameg foleciwlaidd ac efelychiadau dellt, mae'n archwilio'r rhyngweithio rhwng swigod nwy ymholltiad a thanwydd niwclear, gan wella ein dealltwriaeth o berfformiad tanwydd mewn amodau amrywiol. Y tu hwnt i ddeunyddiau niwclear, mae'n cyfrannu at ymchwil i fatris a chelloedd tanwydd, gan roi pwyslais ar ddulliau peirianegol o wella perfformiad. Mae Dr Rushton hefyd yn ymwneud â phrojectau cydweithredol, gan gynnwys rhagfynegi gwresogiad radiolytig fel rhan o driniaeth dŵr yn Fukushima-Daiichi ac mae’n cymryd rhan yn rhaglen danwydd ryngwladol NFIR ar gyfer EPRI. Mae'n cymryd rhan weithredol mewn addysgu ac mae'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Cemeg Deunyddiau ar gyfer Y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau, a Mwyngloddio, gan hyrwyddo ecwilibria gwedd a phennu diagramau gwedd.